Pam fod Cwpan y Byd 2022 mor ddadleuol?

  • Cyhoeddwyd
Pel Cwpan y byd gyda phrif-ddinas Qatar, Doha, yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images

Does 'na'm prinder trin a thrafod yn y byd pêl-droed, ond mae materion oddi-ar y cae wedi achosi stŵr yn Qatar 2022 cyn i unrhyw bêl gael ei chicio.

O hawliau dynol i iechyd a diogelwch, mae Cwpan y Byd 2022 wedi bod yn denu'r penawdau ers iddyn nhw gyhoeddi bod y bencampwriaeth yn mynd i'r Dwyrain Canol am y tro cyntaf erioed.

Y cyhoeddi… a chyhuddiadau o lwgrwobrwyo

Yn syth wedi'r cyhoeddiad yn 2010, dechreuodd bobl gwestiynu'r penderfyniad a hynny am nifer o resymau.

Mae'n wlad boeth gyda'r tymheredd yn cyrraedd o gwmpas 40ºC yn ystod yr haf, pan fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal fel arfer. Does dim traddodiad o bêl-droed yn y wlad, a dydy'r tîm cenedlaethol erioed wedi cyrraedd unrhyw Gwpan y Byd o'r blaen. Doedd yr isadeiledd ddim digon da i gynnal pencampwriaeth mor fawr: bydd miliwn a hanner o bobl yn ymweld â gwlad sydd efo poblogaeth o dair miliwn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddi mai Qatar fyddai'n cynnal y twrnament, nôl yn 2010

Ers y cyhoeddiad, mae Qatar wedi buddsoddi £200 biliwn yn adeiladu saith stadiwm, 100 gwesty, lonydd, system drenau rhwng y stadia, canolfannau siopau a maes awyr. Tua £10 biliwn gafodd ei wario gan Rwsia i gynnal y Cwpan y Byd diwethaf.

Diolch i nwy ac olew does 'na ddim prinder arian yn y wlad ac yn fuan wedi'r cyhoeddiad dechreuodd gyhuddiadau gael eu gwneud bod rhai aelodau o Fifa wedi eu llwgrwobrwyo.

Cyhuddwyd Qatar o dalu swyddogion £3m i ennill eu pleidlais dros y gwledydd eraill oedd wedi rhoi cynnig am Gwpan y Byd 2022, ond daeth ymchwiliad i'r casgliad nad oedd hynny wedi digwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Qatar wedi adeiladu saith stadiwm ar gyfer y bencampwriaeth

Mae Sepp Blatter, cadeirydd Fifa yn 2010 ond sydd bellach wedi ei wahardd rhag gweinyddu'r gêm tan 2027 yn dilyn ymchwiliad i faterion eraill gan bwyllgor moeseg Fifa, wedi awgrymu bod y penderfyniad i fynd a'r bencampwriaeth i Qatar wedi bod yn un anghywir. Ond mae o hefyd wedi dweud bod yn rhaid i wledydd Ewrop a De America sylweddoli bod Cwpan y Byd yn ddigwyddiad byd-eang erbyn hyn a bod yn rhaid iddi deithio i bob rhan o'r byd.

Gwres tanbaid a chwalu traddodiad

Ers y bencampwriaeth gyntaf un yn 1930 mae Cwpan y Byd wedi cael ei chynnal yn yr haf. Nid felly eleni.

Un broblem o gynnal pencampwriaeth chwaraeon mewn anialwch yn y Dwyrain Canol yn ystod Mehefin a Gorffennaf ydi'r gwres, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 40ºC ar gyfartaledd, a hyd yn oed 50ºC ar adegau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd rhai o lonydd Doha, Qatar, eu peintio'n las yn 2019 er mwyn ceisio lleihau tymheredd y tarmac a'r ardaloedd cyfagos

Oherwydd pryderon am iechyd a lles y chwaraewyr roedd Qatar am gynnal yr holl gemau mewn adeiladau pwrpasol gyda system dymheru. Fe gafodd y cynlluniau rheiny eu gwrthod felly symudwyd y bencampwriaeth i fis Tachwedd a Rhagfyr, gyda'r gêm olaf yn cael ei chynnal wythnos cyn dydd Nadolig. Mae hyn wedi creu cur pen i nifer o gynghreiriau pêl-droed, fel Uwch Gynghrair Lloegr, gan fod y gaeaf yn gyfnod prysur o ran gemau.

Iechyd a diogelwch gweithwyr

Nid pryderon am iechyd a diogelwch pêl-droedwyr yn unig sydd wedi bod dan y chwyddwydr, ond y bobl sy'n adeiladu'r holl isadeiledd ar gyfer y gemau.

Er mwyn cael y cyfan yn barod mewn pryd cyflogwyd 30,000 o weithwyr, gyda'r rhan fwyaf yn dod o ardaloedd tlawd gwledydd fel Bangladesh, India, Pakistan, Sri Lanka a Nepal.

Yn 2016, fe honnodd elusen Amnest Rhyngwladol nad oedd rhai o'r gweithwyr mudol yma yn cael eu talu'n gyson, eu bod yn gorfod talu ffioedd recriwtio ac yn gorfod lletya mewn llefydd budr. Fe wnaeth Qatar basio deddf yn 2017 i wella cyfleusterau'r gweithwyr, eu gwarchod rhag gweithio mewn gwres rhy boeth ac i leihau oriau gwaith.

Ffynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn beirniadaeth, mae llywodraeth Qatar wedi dweud eu bod wedi sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn well gan gynnwys cael llety glân

Yna yn 2021, dywedodd papur newydd The Guardian bod dros 6,000 o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar ers y penderfyniad i gynnal Cwpan y Byd yno.

Yn ôl llywodraeth Qatar mae'r ffigwr yn gamarweiniol gan fod nifer fawr o'r gweithwyr yma wedi bod yn y wlad ers blynyddoedd ac wedi marw am resymau naturiol neu yn bobl oedrannus. Dim ond tri pherson wnaeth farw yn sgil gwaith ar stadia Cwpan y Byd rhwng 2014 a 2020 meddai nhw.

Ffynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraeth Qatar a mudiadau eraill yn anghytuno ynglŷn â faint o weithwyr sydd wedi marw yn ystod gwaith adeiladu ar gyfer y Cwpan y Byd

Ond mae asiantaeth llafur rhyngwladol Cenhedloedd Unedig yr ILO yn honni nad ydi Qatar yn cynnwys marwolaethau o drawiad ar y galon neu broblemau anadlu yn eu ffigurau, er mai dyma rai o symptomau gwneud gwaith corfforol mewn tymheredd rhy uchel. Yn ôl eu ffigyrau nhw, yn 2021 yn unig bu farw 50 gweithiwr tramor ac anafwyd 500 yn ddifrifol.

Mae llywodraeth Qatar nawr wedi bod yn gweithio gyda'r ILO i wella deddfau gweithio a dywed eu llefarydd bod y sefyllfa wedi gwella.

Hawliau dynol

Mae'r byd pêl-droed wedi bod yn ceisio gwneud y gêm yn fwy cynhwysfawr dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae siom fod y bencampwriaeth yn cael ei chynnal mewn gwlad sydd wedi cael ei beirniadu am ei record hawliau dynol, gan gynnwys tuag at fenywod, pobl hoyw a phobl LHDTC+ (LGBTQ+).

Mae rhai o staff cymdeithas pêl-droed Cymru wedi dweud na fydd nhw'n mynd i Qatar oherwydd agweddau'r wlad tuag at bobl hoyw ac mae rhai cefnogwyr wedi dweud ei bod yn rhy beryglus iddyn nhw fynd yno gan ei bod yn anghyfreithlon bod yn gyfunrywiol yno.

Mae aelodau o Wal yr Enfys, y grŵp cefnogwyr LHDTC+ swyddogol, hefyd wedi dweud na fyddan nhw'n teithio i'r Dwyrain Canol i gefnogi tîm Cymru.

Yn gynharach eleni dywedodd pennaeth pêl-droed Cymru, Noel Mooney, y byddai'r tîm yn defnyddio'r digwyddiad fel "llwyfan" i drafod hawliau dynol yn Qatar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Qatar yn wlad Foslemaidd ac mae rhai agweddau - a rhai cyfreithiau - yn wahanol iawn i wledydd gorllewinol

Mae o hefyd yn gofyn i Fifa ac Uefa i "feddwl yn ddwys am eu cydwybod" wrth ddewis lleoliad gemau.

Mae swyddogion yn Qatar wedi dweud bod "croeso i bawb", ond ni fydd newid yn y gyfraith yn ystod y bencampwriaeth.