Pêl-droed yn 'gyfle gwych' i gael mwy i ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y bwriad yw ceisio manteisio ar gyffro Cwpan y Byd i annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg

Gallai cynllun newydd i ddysgu Cymraeg i rai o chwaraewyr, staff a chefnogwyr Cymru fod yn "gyfle gwych" i annog mwy o bobl sy'n ymddiddori mewn pêl-droed i ddysgu'r iaith.

Bydd y bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweld adnoddau dysgu arbennig yn cael eu cynhyrchu, wedi'u teilwra ar gyfer dysgu'r iaith i bobl drwy gyfrwng pêl-droed.

Y bwriad fydd ceisio manteisio ar gyffro Cwpan y Byd, a'r platfform digynsail fydd i'r iaith yn Qatar, i annog y rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu neu wella eu sgiliau.

"Drwy'n hanes, diwylliant a'n traddodiadau ni, [gobeithio bydd] mwy a mwy isio dysgu am yr iaith a gwybod am yr iaith, a mynd ati falle i ddysgu," meddai pennaeth cyfathrebu CBDC, Ian Gwyn Hughes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan amlwg o negeseuon Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers blynyddoedd

Bydd y bartneriaeth yn gweld cyrsiau Cymraeg yn cael eu teilwra'n benodol ar gyfer chwaraewyr a staff y garfan, yn ogystal ag adnoddau pellach i hyfforddwyr, cefnogwyr ac eraill o fewn y byd pêl-droed yng Nghymru.

"Mae'r gwaith mae'r gymdeithas wedi gwneud hyd yma'n hollol wych, felly beth 'dan ni'n gobeithio 'neud ydi parhau i weithio efo nhw ar y berthynas yna," meddai Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Beth sydd gyda ni ydy cyfle gwych i ddefnyddio'r seiliau maen nhw 'di rhoi mewn lle yn barod, a hefyd dylanwadu ar bobl ifanc sydd â diddordeb mewn pêl-droed.

"Mae momentwm dysgu Cymraeg wedi cynyddu yn fawr dros y blynyddoedd diwetha'. Mae 'na bron i 15,000 o ddysgwyr bellach gan y ganolfan ei hun, ac mae adeiladu perthynas fel gyda'r gymdeithas bêl-droed yn agor cynulleidfaoedd newydd i ni hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dona Lewis bod y ganolfan eisoes wedi gweld cynnydd diweddar mewn dysgwyr Cymraeg

Mae'r Gymraeg wedi cael lle amlwg yn llawer o waith cyfathrebu CBDC dros y blynyddoedd diwethaf, a dywedodd Ian Gwyn Hughes mai'r cam naturiol nesaf oedd ceisio annog mwy i fynd ati i'w dysgu.

"Bydd 'na gyfle i glybiau, i chwaraewyr, i wirfoddolwyr... a chwaraewyr yn ein timau ni i ddysgu Cymraeg," meddai.

"Drwy'n hanes ni, drwy'n diwylliant ni, drwy'n traddodiadau ni, [mae] mwy a mwy isio dysgu am yr iaith a gwybod am yr iaith, a mynd ati falle i ddysgu'r iaith.

"Dyna be' 'dan ni di trio 'neud efo'r chwaraewyr a'r cefnogwyr, ac mae 'di bod yn rhan hanfodol o'r daith."

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles y byddai'r bartneriaeth "yn gyfraniad pwysig i'r ddwy nod" sydd gan Lywodraeth Cymru - cyrraedd miliwn o siaradwyr a dyblu defnydd o'r iaith.

Disgrifiad o’r llun,

"Bydd Cwpan y Byd yn rhoi cyfle i ni ar y llwyfan rhyngwladol i roi Cymru allan yna," medd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney

Ychydig flynyddoedd yn ôl dechreuodd rhai o aelodau tîm y merched fynd ati gyda'i gilydd i ddysgu Cymraeg, ac mae Ian Gwyn Hughes yn credu fod y brwdfrydedd hwnnw nawr yn cael ei rannu gan rhai o chwaraewyr di-Gymraeg carfan y dynion hefyd.

"Mae llawer o'r chwaraewyr sydd ddim yn siarad Cymraeg yn gweld y chwaraewyr sydd yn, ac yn meddwl 'swn i'n licio gwneud dipyn bach o hynny'," meddai.

"'Dan ni'm yn d'eud bod nhw i gyd yn mynd i ddod yn naturiol a siarad Cymraeg drwy'r amser, ond mae lot o aelodau staff sy'n gweithio efo'r timau hefyd yn awyddus i ddysgu rhyw fath o Gymraeg, a bod 'na fwy o ddealltwriaeth o'r iaith yn fwy na dim."

Mae CBDC eisoes wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill ar Gŵyl Cymru - cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol yn arwain at Gwpan y Byd ym mis Tachwedd.

Disgrifiad,

Aelodau tîm pêl-droed merched Cymru'n dysgu Cymraeg

"Bydd e wir yn dod â'r iaith a diwylliant yn agosach at bobl, drwy gyfrwng pêl-droed," meddai prif weithredwr CBDC, Noel Mooney.

"Ni yw'r prif gamp yng Nghymru, o ran diddordeb a chymryd rhan, a bydd y Cwpan y Byd yma'n rhoi cyfle i ni ar y llwyfan rhyngwladol i roi Cymru allan yna."

Mae'r Gymraeg hefyd yn debygol o gael ei chlywed eto yng nghynadleddau i'r wasg y twrnament yn Qatar - fel yr oedd hi yn Euro 2016 - a hynny hefyd am roi hwb ychwanegol i broffil yr iaith.

"Mae o'n denu diddordeb achos mae'r wasg a'r cyfryngau mor rhyngwladol," meddai Ian Gwyn Hughes.

"'Dan ni ar sylw'r byd yn Qatar, a bydd mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg, isio deall mwy am yr iaith Gymraeg, a gwybod bod ni yn genedl o ran pêl-droed sydd ar wahân, yn annibynnol, a bod genna ni'n hiaith a'n diwylliant ein hunain."