Aberwla: Creu gêm realiti rhithiol i ddysgu Cymraeg

Mae cynllun newydd wedi ei gyhoeddi i helpu plant rhwng saith a 14 oed i ddysgu Cymraeg.

Bydd dros £6.6m ar gael dros dair blynedd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg.

Fel rhan o'r cynllun bydd gêm realiti rhithwir addysgol o'r enw Aberwla yn cael ei chyflwyno.

Mae disgyblion yn defnyddio setiau pen realiti rhithiol - virtual reality - yn creu cymeriadau, ac yn defnyddio eu sgiliau Cymraeg i archwilio pentref rhithwir Aberwla.

Mae'r cynllun wedi bod ar waith mewn pum canolfan yng Ngwynedd, ond bellach yn ehangu i Gymru gyfan.

Bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, a phennaeth cyfundrefn addysg drochi Cyngor Gwynedd, Rhys Meredydd Glyn, yn siarad am y gêm ar Dros Frecwast fore Llun.