Gosod cyllideb yn 'rhwygo' arweinydd Cyngor Môn

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi manylion ei chyllideb ariannol, mae arweinydd un cyngor sir yn dweud bod gorfod gwneud rhagor o doriadau gwariant yn ei "rhwygo".

Mae Llywodraeth Cymru yn cael tua £20bn gan Lywodraeth y DU yn San Steffan - ac mae'n rhoi rhan o'r arian yma i gynghorau sir - sydd yna'n penderfynu sut i wario'r arian yna ar wasanaethau yn lleol.

Ar Dros Frecwast, dywedodd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, ei bod wedi mynd i mewn i lywodraeth leol er mwyn "gwneud y gorau dros yr ynys", ond bod cyllidebau wedi eu torri yn gyson.

Dywedodd y byddai'n "gwneud ei gorau" i amddiffyn y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ond ei bod yn "pryderu'n fawr iawn" yn dilyn 10 mlynedd o lymder.