Safle Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 'gyfleus a chompact'

Mae mis Awst yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond i drefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd mae'n gyfnod prysur wrth iddyn nhw baratoi i groesawu'r miloedd i Foduan.

Dywedodd Michael Strain, cadeirydd y pwyllgor gwaith ar gyfer 2023, fod trefniadau ar gyfer y ffyrdd o amgylch y safle yn mynd rhagddo, yn ogystal â sut i gael pobl o drefi cyfagos fel Pwllheli yn ôl ac ymlaen o'r maes.

Dywedodd fod hynny'n waith pwysig, gyda ffyrdd yr ardal yn brysur hyd yn oed ar wythnos arferol yn yr haf.

Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru y bydd y safle - y Maes, y maes carafanau a Maes B - oll yn agos at ei gilydd ym Moduan.

"Mae'n mynd i fod yn safle da iawn, a fydd o'n gyfleus a chompact," meddai