'Cefnogaeth cefn gwlad wedi bod yn arbennig ers marwolaeth dad'

"Mae cefn gwlad wedi bod yn arbennig, ni'n ffaelu diolch digon... 'sa i'n credu bod cymuned [arall] fel 'y i gael," meddai Mark Harries.

Yn eu cyfweliad cyntaf ers marwolaeth eu tad ar eu fferm, mae teulu o Sir Gaerfyrddin wedi bod yn sôn am eu galar a'u colled wedi'r digwyddiad.

Bu farw Maldwyn Harries, 58, wedi digwyddiad ar y fferm deuluol ger Llandeilo, pan oedd prawf TB yn cael ei gynnal ar wartheg.

Mae'r teulu nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar y drefn o brofi TB - neu'r diciâu.