Dyn, 58, wedi marw ar fferm ar ôl digwyddiad â tharw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 58 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r BBC yn deall fod y dyn wedi marw ar ôl i darw ymosod arno wrth i brofion TB gael eu cynnal fore Gwener.
Mae'r dyn wedi ei enwi'n lleol fel Maldwyn Harries. Bu farw yn y fan a'r lle.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi eu galw i fferm yn ardal Penybanc ger Llandeilo ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi ei anafu.
Mae'r crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi eu hysbysu, ac mae'r GID yn ymchwilio i'r digwyddiad ar y cyd â'r heddlu.
Mae disgwyl i gwest gael ei agor i'r farwolaeth.
Roedd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn adnabod Mr Harries.
"Roedd e'n ffarmwr adnabyddus iawn - y teulu wedi bod yn ffarmo yno ers blynyddoedd," meddai.
"Wrth gwrs ma' rhywun yn meddwl amdanyn nhw i gyd a cwestiynu fel ma' rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd ac yn tanlinellu hefyd pa mor beryglus yw bywyd ffarmwr."
Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd wedi anfon eu cydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Harries yn dilyn y trasiedi.
Pryderon am ddiogelwch profion TB
Mae'r Parchedig Simon Bowkett, sydd hefyd yn ffrind i'r teulu ac wedi bod yn eu cefnogi dros y penwythnos, wedi cwestiynu'r prosesau diogelwch wrth wneud profion TB.
"Roedd Maldwyn yn adnabyddus ac yn boblogaidd iawn ac mae'n cael effaith sy'n parhau," meddai.
"Mae pobl yn dweud wrtha'i heddiw fod ganddyn nhw brawf TB ar y gweill a gallwch weld y ffordd y mae pobl yn meddwl am y straen... a'r pwysau ychwanegol y mae'r polisi hwn yn ei roi."
Ychwanegodd fod y polisi ynghlwm â chynnal profion TB "wedi'i ffurfio ym Mae Caerdydd gan bobl sydd heb gysylltiad â bywyd bob dydd yng nghefn gwlad Cymru".
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â theulu a ffrindiau Mr Harries.
"Mae teulu Mr Harries yn cael cynnig cymorth ar yr adeg hynod drist ac anodd hon.
"Rydym yn aros am ganlyniad ymchwiliad HSE i'r ddamwain drasig hon."