Galw am edrych eto ar brofion TB yn dilyn marwolaeth ffermwr

  • Cyhoeddwyd
Maldwyn Harris a'i deuluFfynhonnell y llun, LLun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Maldwyn Harries a'i deulu

Yn eu cyfweliad cyntaf ers marwolaeth eu tad ar eu fferm, mae teulu o Sir Gaerfyrddin wedi bod yn sôn am eu galar a'u colled wedi'r digwyddiad.

Bu farw Maldwyn Harries, oedd yn 58 oed, wedi digwyddiad ar y fferm deuluol ger Llandeilo, pan oedd prawf TB yn cael ei gynnal ar wartheg.

Mae'r teulu nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar y drefn o brofi TB - neu'r diciâu.

Mae ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) i'r hyn ddigwyddodd yn parhau.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y rhaglen brofi TB wedi arwain at ostyngiad mewn achosion o'r clefyd, a bod ffermwyr yn ganolog i'r broses.

'Roedd Dad yn arwr'

Y gred yw bod Maldwyn Harries wedi marw ar ôl i darw ymosod arno wrth i brofion TB gael eu cynnal.

Mae disgwyl i gwest i'w farwolaeth gael ei gynnal ar 28 Ebrill.

Disgrifiad,

Mark Harries: Cefnogaeth cefn gwlad "wedi bod yn arbennig"

Yn ôl ei fab hynaf, Mark, roedd ei dad yn "fachan onest", yn "weithiwr caled" ac yn dad cefnogol i'w saith o blant.

"Bydden i ddim 'ma heddi' yn ffarmo heblaw am Dad," meddai.

"Wedi cael fy magu i fewn iddo fe, o'r wellies bach i beth sydd 'da fi nawr. Heblaw am Dad yn ffarmo, bydden i'n 'neud rhywbeth arall nawr, definitely

"O'dd e'n arwr i bob un o'm brodyr a chwiorydd. Bydden i ffili gofyn am ddim byd arall."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maldwyn Harries yn gweithio ym Mart Llandeilo

Dyw'r misoedd diwethaf heb fod yn hawdd i'r teulu, yn enwedig dros y Nadolig.

"Pan chi'n eiste' rownd y ford 'na, fel o'dd hi gartre', o'dd sedd o flaen y teledu, hwnna yw un Dad, a s'neb wedi eiste' yn y sedd 'na ers y dydd mae e wedi mynd," meddai Mark.

"Ti yn eiste' lawr a meddwl pam bod e heb ddod mewn."

Mae'r teulu wedi eu syfrdanu gydag haelioni'r gymuned, sydd wedi trefnu amryw o ddigwyddiadau i godi arian at elusen sydd "mor bwysig" iddyn nhw.

"Gath Dad ddamwain yn y mart tua three years yn ôl a gath e air ambulance pryd 'ny.

"Gath e ddou air ambulance mas pan gath e dolur, pan gollodd e bywyd e pedwar mis yn ôl, so ni wastod wedi gweud bod yr air ambulance mor bwysig i ni."

Mae'n canmol ymateb yr elusen ddiwrnod y ddamwain.

"O'n i'n sefyll ar waelod yr iard yn fflago'r ambulance lawr a 'na gyd o ti'n gweld tua 10 munud ar ôl y ffôn oedd chopper uwchben ni a ti'n meddwl 'fair play, t'mod, mae e'n cymryd fi mwy na deg munud i ddod mas o'r gwely yn bore."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maldwyn Harries yn "caru'r stoc" ac yn "dad neilltuol", medd Huw Evans

Yn gweithio fel ffarmwr ac i gwmni arwerthu lleol, roedd Mr Harries yn adnabyddus o fewn y gymuned amaethyddol.

Mae cyflogwr a ffrind agos iddo wedi ei ddisgrifio fel dyn oedd yn "caru'r stoc" ac yn "dad neilltuol".

Dywedodd Huw Evans, arwerthwr da byw a phrisiwr: "O'n i'n 'nabod Maldwyn ers blynydde. Fuodd e'n gweithio gyda fi amser o'n i yn mart Caerfyrddin - ni'n mynd nôl dros ugain mlyne'.

"Bachan hynaws, rhwydd i ddod 'mla'n gyda, meddwl y byd o'i waith ac yn un o chi'n gallu dibynnu arno fe drwy'r amser."

'Sawl un yn cael dolur'

Bedwar mis ers y digwyddiad, parhau mae'r gwaith ar y fferm i Mark a'r teulu.

Ond mae'r mab yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut mae profion TB yn cael eu cynnal, a pha mor aml mae angen gwneud y gwaith.

Ar hyn o bryd mae'r profi yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg er mwyn ceisio rheoli'r clwyf.

"Mae eisiau iddyn nhw edrych ar y ffordd maen nhw'n testo," meddai Mark.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Harries: "Ti yn eiste lawr a meddwl pam bod e heb ddod mewn"

"Dyw e ddim yn naturiol i'r da 'ma gael eu testo bob 60 days. Mae sawl un yn cael dolur wrth wneud e…

"Mae da fel ni rili, mae routine 'da ti, a ma' eisiau i'r llywodraeth edrych mewn iddo fe."

Ychwanegodd: "Sa i'n credu bod y bobl tu ôl i'r ddesg sy'n dweud wrthon ni beth i'w wneud yn deall beth mae'n rhaid i ni wneud.

"Naill ai mae eisiau iddyn nhw ddod mas o'r office a gweld beth mae'n rhaid i ni wneud a pa fath o danger ni'n rhoi ein corff ni ynddo, iddyn nhw sylweddoli mae eisiau gwneud newid."

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr (FUW) Cymru, Glyn Roberts, eu bod yn trafod materion diogelwch o amgylch y profion TB gyda'r llywodraeth.

"'Da ni wedi siarad a siarad a siarad efo'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn tynnu sylw at y broblem - diciâu yn un peth, ac mae dwy elfen i hynny.

Ffynhonnell y llun, Tywi Valley Drone Photography
Disgrifiad o’r llun,

Fe gynhaliwyd Taith Dractors ar y fferm yn ddiweddar er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

"[Mae] diciâu ei hun yn broblem a'r effaith seicolegol mae'n gael ar ein haelodau ni a bywyd cefn gwlad yn gyffredinol.

"A dwi'n cwestiynu ydy'r llywodraeth yn wir sylweddoli'r effaith seicolegol mae o'n gael ar y diwydiant.

"Mae'n anorfod fod y broses diciâu yn cael effaith seicolegol ar ffermwyr."

'Allweddol gwrando ar ffermwyr a milfeddygon'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Mr Harries.

"Trwy brofion TB rheolaidd mae gwartheg sydd wedi'u heintio yn cael eu hadnabod a'u symud cyn iddynt gael eu heffeithio'n glinigol. Byddai peidio gwneud hynny'n arwain at ledaenu'r haint yn llawer ehangach.

"Rydym wedi gweld cynnydd da tuag at ddileu TB ers inni sefydlu ein rhaglen, gyda gostyngiadau hirdymor mewn achosion a nifer y buchesi dan gyfyngiadau. Mae ffermwyr yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflawni ac rydyn ni, wrth gwrs, yn gwrando arnyn nhw.

"Mae gwrando ar ffermwyr a milfeddygon a gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon yn allweddol i gynnydd pellach.

"Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn diogelwch ffermydd drwy gyngor Cyswllt Ffermio ac yn 2022 gwnaethom gynnig £5m o gefnogaeth trwy ein cynllun grantiau bach."

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cadarnhau bod ymchwiliadau'n parhau.

Pynciau cysylltiedig