Eisteddfod: 'Pafiliwn llai ond un mwy hygyrch'

Bydd maes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni yn edrych ychydig yn wahanol, gyda dwy 'ganolfan gystadlu' yn disodli'r pafiliwn traddodiadol.

Mae trefnwyr y Brifwyl hefyd wedi cyhoeddi mai uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth bellach, sy'n golygu y bydd cystadlaethau torfol - fel corau, grwpiau llefaru a phartïon dawns - yn cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, Trystan Lewis, mai'r nod yw "cynnal a chodi safon yn ogystal â phrofiad yr ymwelydd a phrofiad y cystadleuydd".

"Ma'r pafiliwn yn dod yn llai a gobeithio y bydd yn fwy hygyrch, achos yn y blynyddoedd a fu ma'r pafiliwn... wedi bod yn le hwyrach nad ydy bobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu mynd iddo fo," meddai.

"Maen nhw'n crwydro'r maes ond ddim yn mynd i mewn i'r pafiliwn.

"Rydyn ni'n edrych ar gynnal a chodi safon yn ogystal â phrofiad yr ymwelydd a phrofiad y cystadleuydd.

"Be' 'da ni'n 'neud bellach ydy bod bob un adran, o ddawns i gerddoriaeth a cherdd dant ac ati, i gyd yn cael yr un tegwch ar y llwyfan."