Karl Davies: 'Plaid Cymru mewn sefyllfa go drychinebus'

Mae cyn-brif weithredwr Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn poeni bod "newid diwylliant difrifol ac erchyll" wedi bod o fewn y blaid yn dilyn adroddiad damniol.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Karl Davies fod y blaid mewn "sefyllfa go drychinebus" wedi adroddiad a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru gan arwain at ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd.

Ychwanegodd Mr Davies fod angen i'r arweinydd newydd "sicrhau bod aelodau'r blaid yn teimlo mai nhw sy'n berchen ar y blaid unwaith eto".

Llyr Gruffydd fydd arweinydd y blaid dros dro, nes bydd arweinydd parhaol yn cael eu dewis.