Plaid Cymru mewn 'sefyllfa drychinebus' medd cyn-bennaeth

  • Cyhoeddwyd
Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru yn wynebu sefyllfa "drychinebus" a "difrifol iawn", yn ôl un o'i chyn-brif weithredwyr.

Mae Adam Price wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel arweinydd, a Llyr Gruffydd wedi ei ethol fel arweinydd dros dro.

Fe ddaeth hynny ar ôl cyhoeddiad adroddiad damniol a ddaeth i'r casgliad fod diwylliant gwenwynig o fewn y blaid.

Dywedodd Karl Davies fod "tasg anferthol" yn wynebu'r arweinydd nesaf gan fod "ymddiriedaeth wedi ei danseilio".

Roedd casgliadau'r adroddiad gan Nerys Evans yn nodi achosion o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

Fe ymddiheurodd Mr Price a chyfaddefodd i'r adroddiad "niweidio" enw da, ymddiriedaeth a hygrededd ei blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth ymddiswyddo fel arweinydd, dywedodd Adam Price ei bod yn amlwg nad oedd ganddo gefnogaeth ei gydweithwyr

Er i Llyr Gruffydd gael ei ethol fel arweinydd dros dro ar ôl i Mr Price ymddiswyddo, does dim olynydd amlwg i gamu i'r rôl yn barhaol.

Mae'r Llywydd Elin Jones, sydd wedi sefyll i fod yn arweinydd yn y gorffennol, eisoes wedi dweud na fydd hi'n rhoi ei henw ymlaen y tro hwn.

'Erchyll'

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Karl Davies, oedd yn brif weithredwr ar y blaid rhwng 1993 a 2002, fod "tasg anferthol" yn wynebu'r person pan y cawn nhw eu hethol.

"Os ydy'r blaid wedi symud o fod yn lle'r oedd pobl yn teimlo yn ddiogel, yn teimlo fel bod yn rhan ohoni am ei bod yn wahanol, yn saff a'n flaengar, ac wedi symud i fod yn ddiwylliant lle mae pobl ofn a ddim yn teimlo eu bod nhw'n rhan ohono, yna mae'r blaid mewn sefyllfa go drychinebus faswn i'n deud," meddai.

Ychwanegodd Mr Davies fod angen i'r arweinydd newydd "sicrhau bod aelodau'r blaid yn teimlo mai nhw sy'n berchen ar y blaid unwaith eto".

Disgrifiad,

Karl Davies: "Mae'r blaid mewn sefyllfa go drychinebus"

"Mae aelodau'r blaid wedi dychryn ac wedi synnu, ac o ddarllen drwy'r adroddiad mae'n gwneud i rywun feddwl bod yna newid diwylliant difrifol iawn ac erchyll wedi bod o fewn y blaid," meddai.

"Os ydy'r aelodau yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu harwain yn gywir, a bod arweinyddiaeth y blaid yn cynnal y diwylliant toxic, fel cafodd ei alw yn yr adroddiad, yna dydyn nhw ddim yn mynd i deimlo'r cymhelliad i fynd allan i wneud y gwaith.

"Bydd hynny'n ddamniol i'r blaid yn ymarferol yn ogystal â'n ddiwylliannol."

Disgrifiad,

Llyr Gruffydd AS: "Rhaid dysgu gwersi ac adennill hyder"

Fe wnaeth Mr Davies grybwyll enwau Siân Gwenllian, Aelod o'r Senedd yn Arfon, a Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd Ynys Môn, fel enwau posib y byddai'n hoffi eu gweld yn arwain.

Ddydd Iau, dywedodd Llyr Gruffydd na fyddai'n "cuddio rhag unrhyw heriau" a bod yn rhaid "adennill hyder" oddi fewn a thu allan i'r blaid.

'Grŵp bach elitaidd yn rhedeg y blaid'

Mae Dr Dewi Evans, fu'n ymgeisydd i fod yn gadeirydd Plaid Cymru yn 2019, yn cyhuddo'r rheiny sy'n arwain y blaid o anwybyddu aelodau.

"Mae 'na gwyn yn gyson dros y blynyddoedd bod y blaid ddim yn gwerthfawrogi cyfraniad ei haelodau," meddai ar raglen Post Prynhawn.

"Hefyd mae 'na nifer o bobl gyda diddordebau a phrofiadau arbennig iawn sy'n perthyn i'r blaid a 'dyn ni ddim yn ei defnyddio nhw. Dylen ni gymryd mwy o sylw o'r doniau sy' gyda'r bobl yma.

"Mae 'na grŵp bach elitaidd yn rhedeg y blaid ac yn credu bo' nhw'n deall y cwbl ac ddim yn barod i drafod na siarad gyda'r byd tu fas, ac mae hyn yn bodoli ers dros 20 mlynedd.

"Dwi'n credu y dylai'r rheiny sydd wedi bod ar y pwyllgor gwaith dros y bedair, bum mlynedd ddiwethaf ymddiheuro ac ymddiswyddo ar unwaith, oherwydd problem weithredol yw hon, nid problem wleidyddol."

'Bai arnon ni i gyd'

Dywedodd Cefin Campbell, aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, fod cyfrifoldeb gan bawb o fewn y blaid dros ganlyniadau'r adroddiad, ac nad oedden nhw wedi bod yn "ddigon grymus" yn erbyn ymddygiad amhriodol yn y gorffennol.

"Mae e'n fai collective arnon ni i gyd sydd falle ddim wedi herio'r math yna o ymddygiad yn ddigon cryf," meddai.

Ond mynnodd nad oedd problemau ymddygiad wedi'u cyfyngu i aelodau o fewn Plaid Cymru'n unig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cefin Campbell AS fod Adam Price wedi gwneud "cyfraniad rhyfeddol" i'r blaid

"Mae hyn yn wir am bob un o'r pleidiau yn y Senedd, achos dwi 'di cael sgwrs gyda chyd-Aelodau o bartïon eraill dros y dyddiau diwethaf, ac maen nhw'n dweud fod yr un peth wedi bod yn wir yn eu parti nhw," meddai.

Cyfaddefodd Mr Campbell ei fod ef wedi bod o blaid gweld Adam Price yn parhau fel arweinydd, ag yntau'n "ffigwr blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth", ond fod "barn wahanol o fewn y clwb".

Gwrthododd chwaith a wneud sylw ynghylch a fyddai'n rhoi ei enw ei hun ymlaen yn y ras arweinyddol fydd yn dilyn.

"Cafwyd sgyrsiau digon heriol o fewn y grŵp lle roedd rhai yn meddwl bod angen iddo fe ystyried ei sefyllfa," meddai.

"Falle bod y drafodaeth o gwmpas Adam yn tynnu ni oddi wrth prif ffocws Plaid Cymru ar hyn o bryd, sef y materion oedd Nerys Evans wedi codi yn ei hadroddiad hi."

'Angen cynnal momentwm'

Yn y cyfamser, fe ddywedodd cyn-gadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones, fod aelodau'r blaid yn teimlo'n "rhwystredig".

"Dw i ddim yn siŵr os yw'r blaid yn rhanedig, ond mae aelodau wedi cael digon ar y brwydro oddi mewn ac yn ddigon rhwystredig," dywedodd ar Radio Wales Breakfast.

"Mae 'na gyfle fan hyn i aildanio'r blaid, mae 'na lawer o waith da'n digwydd yn lleol a gydag arweinyddiaeth cynghorau a dw i'n meddwl fod cytundeb Plaid a Llafur wedi sicrhau cyflawniadau.

"Ond mae angen i'r momemtwm gael ei gynnal a fel y dywedodd Llyr, mae Adam yn haeddu clod am y mater hwnnw."

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi yw arweinydd Cyngor Môn ac mae'n gynghorydd Plaid Cymru

Ar lefel leol, dywedodd cynghorydd Plaid Cymru ac arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi bod yn rhaid cael gwared ar "unrhyw ymdeimlad o ofn mor fuan â phosib" a hynny ar draws Cymru.

"Dyna ydy'r peth hanfodol yn y dyddiau nesaf, y misoedd nesaf, i ni weld llwyddiant y blaid yn cynyddu," meddai.

"Mae angen arweinyddiaeth ofnadwy o gry' rwan.

"Mae angen i ni ddangos bod cyfartaledd yn rhywbeth naturiol, bod pawb yn cael ei drin a thegwch, a bod 'na le i bawb o fewn Plaid Cymru ac o fewn cymdeithas.

"Dwi'n brwydro ar ran merched yn ddyddiol er mwyn dangos bod 'na le a bo' gynnon ni'r hawl i'r un llais a chyfraniad gwerthfawr i wneud."