Adam Price i ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers 2018

Mae Adam Price wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru.

Bydd Grŵp Senedd Plaid Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rôl arweinydd dros dro yn eu cyfarfod fore Iau.

Daw yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Fe ymddiheurodd Mr Price a chyfaddefodd i'r adroddiad "niweidio" enw da, ymddiriedaeth a hygrededd ei blaid.

Mewn datganiad nos Fercher dywedodd ei fod wedi bod eisiau ymddiswyddo ynghynt yn sgil yr adroddiad, ond ei fod wedi cael ei berswadio i aros er mwyn gweithio i drwsio'r problemau.

Ond ychwanegodd ei bod bellach yn "amlwg erbyn hyn nad yw cefnogaeth unedig fy nghydweithwyr gen i", ac oherwydd hynny y byddai'n ildio'r awenau.

Arweinydd parhaol 'yn yr haf'

Roedd pwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru - corff rheoli'r blaid - wedi trefnu cyfarfod ar gyfer nos Fercher.

Mewn datganiad wedi'r cyfarfod hwnnw, dywedodd y blaid fod Mr Price wedi "hysbysu yr aelodau y bydd yn camu lawr fel arweinydd y blaid unwaith y bydd trefniant dros dro mewn lle".

Mae'r blaid yn gobeithio cael arweinydd newydd mewn lle "yn yr haf", gan ychwanegu y bydd amserlen yn amlinellu'r broses o ethol arweinydd parhaol yn cael ei rhannu ag aelodau "cyn gynted â phosib".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Adam Price 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏳️‍🌈

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Adam Price 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏳️‍🌈

Wrth egluro ei benderfyniad mewn llythyr i Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru, dywedodd Mr Price: "Rydyn ni wedi llywio'r agenda ar gyfer newid mewn ffordd nad oes yr un wrthblaid o'n blaenau wedi breuddwydio gwneud.

"Roedd y Cytundeb Cydweithio yn wirioneddol arloesol ac mae wedi dod â manteision fydd yn newid bywydau ein plant, ein teuluoedd a'n cyfeillion ar draws y wlad.

"Mae ein prif ysgogiad ni - annibyniaeth i Gymru - wedi torri'r glannau ar wleidyddiaeth y brif ffrwd ac erbyn hyn mae llaweroedd, o bob cwr ac o bob plaid, yn credu fel ninnau nad mater o os yw hyn, ond pryd.

"Mae fy ymrwymiad i'n gweledigaeth o wlad wedi'i thrawsnewid mor gryf ag erioed, a fy egni dros newid heb bylu dim.

"Rwy'n rhoi fy sicrwydd personol ichi y byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a'n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd."

Disgrifiad,

Adam Price 'am weithio i drwsio problemau yn y blaid' (cyfweliad o 3 Mai)

Fe wnaeth y cadeirydd Mr Jones ddiolch i Mr Price am ei wasanaeth a'i gyfraniad fel arweinydd ers 2018.

"Mae ymrwymiad personol Adam i wneud Cymru yn genedl decach yn etifeddiaeth barhaol y gall ef a Phlaid Cymru fod yn falch ohoni," meddai.

"Drwy'r Cytundeb Cydweithio, sydd wedi ei saernïo gan Adam, mae Plaid Cymru wedi gallu gweithredu polisïau arloesol megis prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, diwygiadau sy'n amddiffyn ein cymunedau'n well ac edrychwn ymlaen at Senedd fwy sy'n adlewyrchu'r Gymru hyderus.

"Wrth i ni ddechrau'r broses o ethol arweinydd newydd byddwn yn canolbwyntio ein holl egni ar weithredu argymhellion Prosiect Pawb er mwyn meithrin diwylliant newydd o fewn y blaid, sy'n golygu y bydd hi'n fudiad llawr gwlad diogel a chynhwysol i bawb."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Plaid Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Plaid Cymru

Beth arweiniodd at yr ymddiswyddiad?

Nos Fawrth, fe wnaeth aelodau o'r Senedd gynnal trafodaethau i drafod canfyddiadau'r adroddiad.

Wedi hynny, fe wnaeth gwefan Nation.Cymru adrodd fod Mr Price wedi cytuno i ildio'r awenau, dolen allanol fel arweinydd y blaid, ond ni chafodd hynny ei gadarnhau ar y pryd.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS Plaid Cymru ar raglen Sharp End ITV Cymru nad oedd yn bosib rhagweld a fyddai Mr Price yn arweinydd Plaid Cymru erbyn wythnos nesaf.

Datgelodd BBC Cymru yn gynharach yn yr wythnos fod Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru wedi cynnal trafodaethau chwe mis yn ôl ynghylch disodli Mr Price.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod Plaid Cymru wedi "llywio'r agenda ar gyfer newid mewn ffordd nad oes yr un wrthblaid o'n blaenau wedi breuddwydio gwneud"

Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru dri AS yn San Steffan a 12 Aelod o'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Plaid Cymru yw'r drydedd blaid fwyaf yn Senedd Cymru, tu ôl i'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr.

Sefydlwyd cytundeb cydweithredu yn 2021 gyda gweinidogion Llafur Cymru ar 46 maes polisi.

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw arGoogle Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.