Trelái: Gorymdaith geir a beiciau modur i angladd dau fachgen

Mae gorymdaith o geir a beiciau modur wedi pasio drwy ardal Trelái yng Nghaerdydd ar gyfer angladd dau fachgen fu farw mewn gwrthdrawiad.

Roedd Kyrees Sullivan, 16, ac Harvey Evans, 15, yn ffrindiau gorau ac fe fyddan nhw'n cael eu claddu gyda'i gilydd.

Fel rhan o'r gwasanaeth, dywedodd Esgobaeth Llandaf fod ffrindiau'r ddau fachgen wedi trefnu gorymdaith o tua 200 o feiciau modur, dau limwsîn, pedair hers ac wyth car Rolls Royce.

Bu farw'r ddau mewn gwrthdrawiad beic trydan ar 22 Mai wedi iddyn nhw gael eu dilyn gan fan heddlu, gyda hynny wedyn yn sbarduno anrhefn ar y strydoedd.