Caerdydd: Teyrngedau gan deuluoedd dau 'ffrind gorau' fu farw

  • Cyhoeddwyd
Harvey Evans a Kyrees Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans a Kyrees Sullivan yn ffrindiau gorau, medd eu teuluoedd

Mae teulu dau fachgen a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.

Bu farw Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, mewn gwrthdrawiad yn ardal Trelái toc wedi 18:00 nos Lun.

Roedden nhw'n "ffrindiau gorau", yn ôl teyrnged gan y teuluoedd a gyhoeddwyd gan Heddlu'r De brynhawn Mercher.

Yn dilyn y digwyddiad bu anhrefn yn yr ardal, gyda cheir yn cael eu rhoi ar dân a gwrthdaro gyda'r heddlu.

"Mae ein calonnau wedi'u torri'n wirioneddol gan farwolaeth sydyn Harvey, ein mab, ŵyr, brawd, nai, ffrind a chariad annwyl," medd ei deulu.

"Roedd yn byw bywyd i'r eithaf, roedd ganddo galon fawr ac yn ddwfn i lawr roedd wir yn malio.

"Roedd yn ffrind gorau i Kyrees, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i deulu hefyd.

"Gofynnwn am heddwch o fewn y gymuned a gofynnwn i bobl adael yr ymchwiliad i'r heddlu fel y gallwn gael yr atebion sydd eu hangen arnom i roi Harvey i orffwys.

"Fel mam Harvey rydw i eisiau cofio ein mab fel y mab hwyliog a chariadus yr oedd ac nid fel y mae'r cyfryngau yn ei bortreadu nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden nos Lun

Mae teulu Kyrees wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol: "Roedd Kyrees yn ddyn ifanc golygus, cariadus, yn fab cariadus i Belinda a Craig, yn frawd bach i Aleah a Jordan ac yn Yncl KyKy arbennig i Myra.

"Roedd ei fam-gu, dad-cu, ei fodrybedd, ei ewythrod a'i gefndryd niferus yn ei garu gymaint.

"Roedd ef a Harvey ynghyd â Niall yn ffrindiau gorau ers yn ifanc ac yn mynd i bobman gyda'i gilydd, roedd gan y ddau gymaint o ffrindiau ac roeddent yn hoff iawn o wneud llawer o bethau gyda'i gilydd, cael hwyl a chwerthin!!

"Roedden nhw'n cael eu caru nid yn unig gan eu teuluoedd ond gan eu cymuned hefyd.

"Hoffai Belinda, Craig a'u teuluoedd ddiolch i bawb am eu holl eiriau, blodau a negeseuon caredig ers iddynt golli eu mab."

Teyrngedau ysgolion

Roedd Kyrees yn ddisgybl yn Ysgol Greenhill, a Harvey yn mynd i Ysgol Bryn-y-Deryn. Mae'r ysgolion wedi rhoi teyrngedau i'r ddau.

"Ni all geiriau ddisgrifio pa mor drist y mae cymuned yr ysgol gyfan i glywed am golled drasig Kyrees Sullivan," meddai Ysgol Greenhill.

"Byddwn o hyd yn ei gofio am ei feddwl chwim a'r gallu i wneud i'r rhai o'i gwmpas wenu.

"Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i deulu a phawb oedd yn agos ato ar amser galar fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun teulu yn dangos Harvey (chwith) a Kyrees (dde) pan yn ifanc

Dywedodd Ysgol Bryn-y-Deryn: "Roedd Harvey yn aelod poblogaidd o gymuned yr ysgol. Roedd yn ddisgybl abl.

"Roedd ef bob amser yn cyrraedd yr ysgol gyda gwên ar ei wyneb a rhyw ddoethineb i'w rhannu!

"Roedd e'n dda iawn mewn chwaraeon ac wrth ei fodd yn trafod materion yr oedd e'n angerddol amdanynt.

"Mae cymuned yr ysgol wedi'i chwalu o golli'r dyn ifanc hwyliog, caredig, a oedd â'i deulu'n ganolog i'w fywyd."

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yr hyn maen nhw'n ei alw'n "anhrefn difrifol" ddydd Llun.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth a hefyd yn dweud eu bod yn "hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y gymuned".

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig