'Y Sioe Fawr yn ôl ar ei thraed go iawn erbyn hyn'
Mae Sioe Frenhinol Cymru ar ben am flwyddyn arall - ac fe roedd sioe 2023 "yn llwyddiant ysgubol" yn ôl ei phrif weithredwr newydd.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe ddywedodd Aled Rhys Jones bod yna deimlad bod y "sioe'n ôl ar ei thraed go iawn erbyn hyn", wedi heriau ailgodi'r digwyddiad yn dilyn y pandemig.
A serch ambell bryder ymhlith rhai ymwelwyr - y ffaith bod yna ddim Pentref Ieuenctid eleni, cynnydd ym mhris tocyn mynediad a diffyg bandiau Cymraeg yn yr SV Arena - roedd yna gynnydd, meddai, yn nifer yr ymwelwyr.
Ac yn sgil yr holl sgyrsiau a gafodd gyda phobl ar y maes, dywedodd Mr Jones y bydd sawl peth yn aros yn y cof.