'Siom' dros ddiffyg bandiau Cymraeg yn y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Sioe Fawr: Diffyg bandiau Cymraeg yn y pentref ieuenctid yn 'rhyfedd'

Tra bod pentref newydd ar faes y Sioe Fawr eleni yn darparu llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg mae pryderon nad oes bandiau Cymraeg wedi eu cynnwys yn narpariaeth y digwyddiad ieuenctid newydd.

Am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd dydy'r Pentref Ieuenctid ddim o dan ofal Mudiad y Ffermwyr Ifanc eleni.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi disgrifio penderfyniad cwmni preifat SV Arena i beidio cynnwys bandiau Cymraeg fel rhan o'i adloniant yn "siom".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robat Idris ei fod yn bwysig adlewyrchu'r ffaith fod o leiaf 40% o weithwyr y diwydiant amaeth yn siarad Cymraeg

Dywedodd Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, bod angen adlewyrchu pobl Cymru yn well.

"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig fod y sioe ac unrhyw ddigwyddiad cysylltiedig â'r sioe hyd yn oed os nad yw'n cael ei drefnu gan y sioe ei hun yn adlewyrchu'r ffaith fod o leia' 40% o weithwyr y tir yn y diwydiant amaeth yn siarad Cymraeg.

"Felly mi ddylid cynnig adloniant yn y Gymraeg nid yn unig i'r bobl sy'n siarad Cymraeg ond i agor y llwyfan i'r Gymraeg i gynulleidfa ehangach."

Un â berfformiodd ar lwyfan y Pentref Ieuenctid y llynedd oedd y cerddor gwerin Welsh Whisperer, ac mae'n credu fod galw am berfformiadau byw Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Welsh Whisperer hefyd fod y diffyg perfformiadau Cymraeg yn "siom"

"Ma' bendant nifer o siaradwyr Cymraeg yn dod i'r sioe, i ffermwyr mae'n ŵyl," dywedodd.

"Ma'r diffyg perfformiadau Cymraeg yn yr SV Arena yn siom, ond ma' nhw ishe llwyddo a 'neud elw dim ots yn y pen draw pa iaith.

"Ond falle mai'r bandiau Cymraeg sydd angen bod yn canu yna."

'Cyfle i glywed y Gymraeg'

Datgelodd CFfI Cymru wythnos diwethaf fod y Pentref Ieuenctid wedi gwneud colled "arswydus" o dros £150,000 y llynedd.

Er hynny, gyda miloedd yn tyrru yno bob dydd, mae'r Sioe Fawr yn llwyfan yn ei hun i'r mudiad medd Nia Haf Lewis, Swyddog y Gymraeg CFfI.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Haf Lewis fod y sioe yn gyfle i bobl glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio

"Ma'n braf gallu rhoi'r llwyfan i aelodau yn Gymraeg neu'n Saesneg," dywedodd.

Mae llwyfan CFfI ar faes y sioe yn cynnal amrywiaeth o gystadlaethau a digwyddiadau, o ganu a dawnsio, i seremonïau.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Ma' nifer o bobl ac aelodau efallai sydd ddim yn clywed y Gymraeg yn eu siroedd nhw, ond yma yn gallu clywed siroedd eraill yn defnyddio'r Gymraeg."

Ardal arall sy'n cynnig adloniant yw pentref bwyd Gwledd.

Gyda seddi i dros 500 o bobl mae'n ychwanegiad newydd i faes y sioe eleni ac yn ogystal ag arddangos cynnyrch o Gymru mae'n cynnig rhaglen lawn o adloniant Cymraeg a Saesneg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref bwyd Gwledd yn cynnig adloniant yn y Gymraeg a'r Saesneg

Wrth drafod y diffyg bandiau Cymraeg ar y safle ieuenctid wrth ymweld â'r maes ddydd Mercher dywedodd gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles: "Mae'n drueni mawr.

"Un o'r pethau sy'n creu cyfle i bobl ddod at y Gymraeg yw gwrando ar gerddoriaeth yn y Gymraeg.

"Ma' Dydd Miwsig Cymru er enghraifft yn llwyddiant mawr ac yn rhoi cyfle anffurfiol i bobl fwynhau diwylliant Cymraeg."

Mae SV Arena wedi cael cais am sylw.