Y Sioe Fawr yn ‘cyfyngu ar wariant’ gymaint â phosib

Sioe Frenhinol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd degau o filoedd o bobl yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Sioe Frenhinol Cymru wedi gorfod cyfyngu ar wariant gymaint â phosib eleni er mwyn mynd i’r afael â’r costau cynyddol o gynnal y digwyddiad.

Mae’r sioe yn Llanelwedd yn costio £3.5m i’w llwyfannu bob blwyddyn.

Yn ôl prif weithredwr y sioe, mae’r gymdeithas wedi gorfod edrych a chraffu’n fanwl ar “bopeth” maen nhw'n ei wario, gan “dynnu’n ôl” ar ambell beth sy’n cael ei gynnig eleni.

Yn bennaeth ar y sioe am y tro cyntaf, dywedodd Aled Rhys Jones er gwaethaf her y costau cynyddol, mae'n addo i fod yn sioe lwyddiannus, gyda gwerthiant aelodaeth a nifer yr anifeiliaid sydd wedi cofrestru eleni eisoes ar gynnydd.

‘Nifer uchaf ers dros 10 mlynedd’

“Ry’n ni wedi synnu braidd wrth weld yr hyder ymhlith yr arddangoswyr,” meddai.

“Mae dros 7,000 o anifeiliaid wedi eu cofrestru a chynnydd wedi bod yn y nifer o wartheg, defaid a moch sydd wedi cofrestru.

“Mae’r defaid yn benodol, mae tua 3,500 ohonynt wedi cael eu cofrestru - y nifer uchaf ry’n ni wedi ei weld ers dros 10 mlynedd.”

Disgrifiad o’r llun,

Hon fydd sioe gyntaf Aled Rhys Jones fel pennaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Eleni, fe fydd pris mynediad oedolyn yn £35, sy'n gynnydd o’r llynedd.

Ond yn ôl Mr Jones, mae’r pris yn cynnig "gwerth am arian", gydag elfennau fel pentref bwyd a llwyfan adloniant newydd ar y safle.

“Er bod y pris wedi codi rhywfaint, mae gwerthiant aelodaeth y gymdeithas wedi mynd i fyny,” meddai.

“Beth sydd yn wahanol am Sioe Frenhinol Cymru, yn enwedig o gymharu â lot o sioeau’r DU, mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn dod yn dod am yr wythnos, ac maen nhw moyn mwynhau’r profiad yna gyda’u ffrindiau, gyda’u teuluoedd, felly mae gwerthiant aelodaeth wedi bod yn beth da eleni.”

Er y ffigyrau cadarnhaol o ran niferoedd hyd yma, nid pris y mynediad yw’r unig beth sydd wedi newid.

Mae’r trefnwyr wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd oherwydd y cynnydd sylweddol mewn costau.

‘Tynnu’n ôl ar ambell beth’

“Elusen yw’r gymdeithas ar ddiwedd y dydd ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ar ein gwariant,” dywedodd y prif weithredwr.

“‘Dyn ni wedi edrych yn fanwl ac yn craffu’n fanwl ar bopeth ‘dyn ni’n gwario.

“Costau, er enghraifft, wedi codi. Pebyll, hireio fewn offer dros dro, contractwyr diogelwch - mae costau cyflogaeth wedi mynd fyny hefyd.

“Ni ‘di tynnu nôl ar ambell beth ry’n ni’n 'neud.

"Ni ‘di tynnu nôl ar y lletygarwch, ar y bwyd ‘dan ni’n darparu mewn ambell i fan, a ni ‘di edrych ar ambell i adran lle allwn ni roi hoe am eleni ac ail-lunio nhw ar gyfer y flwyddyn nesa'.

“Ar y cyfan, mae ‘na newidiadau ond ‘dyn ni yn gwybod beth yw’r ffordd ymlaen.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Donald Morgan yn dweud gyda sicrwydd y bydd yr Adran Arddwriaeth yn dychwelyd yn 2024

Un o’r adrannau fydd ddim yn cael ei chynnal eleni yw’r Adran Arddwriaeth, oedd yn colli tua £40,000 bob blwyddyn, yn ôl y gymdeithas.

I Donald Morgan o siop Blodau’r Bedol yn Llanrhystud, mae’r penderfyniad yn “siomedig”.

“Roedd gyda ni feirniaid yn dod o dros Gymru a Lloegr aton ni,” meddai.

“O ran yr adran gosod blodau, lle ro’n i’n gweithio, roedden nhw’n dweud wrtha’ i bod y safon yn well na’r safon yn Chelsea.

"Mae hwnna’n glod mawr i Gymru, yn glod mawr i’r Sioe Frenhinol ac mae’n glod mawr i unrhyw un oedd yn cystadlu yn y sioe.”

'Mi fydd e nôl'

Ond gyda’r sioe yn addo “cynlluniau mawr” i ailwampio’r adran ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’r aelod o bwyllgor garddwriaeth y sioe yn fwy bodlon.

“Mae’n rhaid bod yn bositif,” meddai Mr Morgan. 

“Mae’n rhaid edrych ymlaen, a galla’ i gadarnhau i bawb fod blwyddyn nesa' yn mynd i fod yn sioe wych ac yn sioe fwy safonol na beth mae e erioed wedi bod, achos mi fydd yr adran nôl a galla’ i sicrhau i chi, mi fydd e nôl.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mared Rand Jones fod y Pentref Ieuenctid wedi gwneud colled "arswydus" y llynedd.

Yn wahanol i nifer o adrannau’r sioe, ni fydd y Pentref Ieuenctid yn dychwelyd eto dan ofal Mudiad y Ffermwyr Ifanc.

Yn ôl prif weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, fe wnaethon nhw golled "arswydus” o dros £150,000 y llynedd.

“Fe gaethon ni gyfarfod gydag aelodau’r ffermwyr ifanc ac yn amlwg roedd ein calonnau ni gyd yn moyn i’r digwyddiad ddigwydd eto,” meddai.

“Mae e wedi bod yn digwydd ers 30 mlynedd, ond ar bapur yn ddu a gwyn roedd e’n dangos, gallwn ni ddim gwneud elw, felly roedd rhaid peidio gwneud e rhagor.”

'Allweddol i gefn gwlad'

Er hynny, mi fydd wythnos y Ffermwyr Ifanc yn “llawn dop” yn ôl y trefnwyr, gyda chystadlaethau megis coginio, crefft, dawnsio a thynnu’r gelyn yn eu cadw’n brysur.

“Dyma binacl y flwyddyn i ni,” meddai Mared Rand Jones.

“Mae e’n allweddol i ni sy’n byw yng nghefn gwlad.

"Dyma ein ffenest siop i werthu ein cynnyrch ond mae e hefyd yn gyfle i ni fel mudiad i arddangos y gorau sydd gyda ni.”

Disgrifiad o’r llun,

Cwmni SV Arena fydd yn arwain trefniadau'r hen Bentref Ieuenctid eleni

Eleni, cwmni preifat fydd felly’n cynnig adloniant a gwersyll ar hen safle’r Pentref Ieuenctid.

Yn ôl SV Arena, fe fydd y digwyddiad yn “fwy cynhwysol” na’r arfer, gyda’r safle’n agored i bob oed yn hytrach na phobl ifanc yn unig.

Bydd adloniant gyda’r dydd a’r nos, ffair, ynghyd â bws gwennol i faes y sioe, ond yn ôl y trefnwyr, eu prif amcan yw sicrhau diogelwch y cyhoedd.

“Mae gyda ni ddiogelwch 24 awr,” meddai Sam Mumford, rheolwr digwyddiadau’r cwmni.

“Mae ffin gyfan y safle wedi cael ei ffensio, gan gynnwys glan yr afon, felly does dim siawns gall unrhyw un gael mynediad i’r ardal hynny.”

Dywedodd fod llinell gymorth 24 awr hefyd ar gael mewn argyfwng.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sam Mumford mai sicrhau diogelwch pawb sy'n mynychu yw eu prif flaenoriaeth

Morgannwg yw sir nawdd y sioe eleni ac yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Kath Atkin-Bowdler, mae’r aelodau wir yn teimlo mai eu sioe nhw yw hon.

“Beth dwi fwyaf prowd ohono yw’r ystod eang o oedrannau sydd wedi helpu ac estyn llaw drwy gydol ein cyfnod fel sir nawdd,” meddai.

“Ry’n ni wedi llwyddo i wneud ffrindiau hefyd a dwi’n hyderus fydd y cyfeillgarwch yna’n parhau ynghyd â’r gefnogaeth fyddan nhw’n rhoi i’r gymdeithas yn y dyfodol. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr.”