Rhyfel Israel-Gaza: Cymraes yn ofni am ffrindiau a chydweithwyr

"Yr hyn sydd ar fy meddwl i ar y foment yw ffrindiau a chydweithwyr sy'n ofni am eu bywydau nhw."

Dyna ymateb Caitlin Kelly, dreuliodd gyfnod yn gweithio yn Gaza, i'r sefyllfa bryderus sy'n datblygu yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 340,000 o bobl sy'n byw yn Llain Gaza yn ddigartref bellach wrth i gyrchoedd awyr barhau yno.

Mae Israel wedi bod yn ymateb i'r ymosodiadau gan Hamas ddydd Sadwrn diwethaf, pan gafodd 1,200 o bobl eu lladd.

Bellach, mae nifer y meirw yn Gaza wedi codi i'r un ffigwr, ac mae yna alw am sicrhau fod cyflenwadau bwyd, meddyginiaethau a thanwydd yn cael cyrraedd yr ardal.

Roedd Ms Kelly, sy'n 27 oed, yn gweithio yn Gaza ac yn byw yn Jerwsalem yn ystod ei chyfnod gyda'r Groes Goch, ac mae hi'n poeni mai mynd o ddrwg i waeth fydd yr amodau yn Llain Gaza.

"O'r 2.2m o bobl sy'n byw yno [Gaza] mae bron i hanner nhw yn blant, ac un o'r pethau cyntaf 'da chi'n sylwi yw'r ffaith bod pobl ifanc ymhobman," meddai.

"Mae pobl yn byw mewn sefyllfa eithaf ansicr hefyd achos ma' 70% o'r bobl sy'n byw yn Gaza ddim o Gaza yn wreiddiol, maen nhw hefyd yn refugees.

"Dydi pobl yn llythrennol methu gadael, mae e fel carchar, ond wedyn hefyd os ydyn nhw'n cael gadael does gyda nhw ddim pasbort, a dim lle i fynd chwaith.

"Nawr ni'n edrych ar sefyllfa lle does gan bobl ddim bwyd, dŵr, trydan neu danwydd - ond fel yna oedd pethau ychydig fisoedd yn ôl, mae hynny i gyd yn cael ei reoli gan Israel.

"Dywedodd un o fy ffrindiau fod byw yn Gaza fel ceisio cael dy wynt, llwyddo i wneud hi i wyneb y dŵr, cyn i rywun eich gwthio chi yn ôl lawr."

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Kelly ei bod hi wedi llwyddo i gysylltu â rhai o'i ffrindiau sydd dal yn yr ardal.

"Dywedodd un ffrind ei bod hi wedi blino, bod rhaid iddi symud trwy'r nos, bod ganddyn nhw nunlle i fynd... a hefyd nad oedd ganddyn nhw syniad be fydd yn digwydd nesaf.

"Mae pobl yno wir yn paratoi i golli popeth."