Hywel a'i BAFTA: 'Dwi'n teimlo dipyn bach yn benysgafn!'
Mae'r darlledwr Hywel Gwynfryn wedi disgrifio'r fraint o dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig yn seremoni flynyddol BAFTA Cymru.
Fe gafodd yr anrhydedd am ei waith ym myd darlledu Cymraeg mewn gyrfa sy'n cwmpasu bron i chwe degawd.
Mae ei wyneb a'i lais yn gyfarwydd i wrandawyr radio a gwylwyr teledu yng Nghymru ers dechrau gyda'r BBC ym 1964.
Fe gyflwynodd y rhaglen bop Gymraeg gyntaf, 'Helo Sut Dach Chi?' ym 1968, gan dorri torri tir newydd trwy ddefnyddio arddull fwy sgyrsiol.
Mae llawer hefyd yn ei gofio yn y rhaglen deledu i blant, Bilidowcar yn y 1970au ac am fod yn rhan o dîm BBC Radio Cymru ers dechrau'r gwasanaeth ym 1977.
Mae hefyd yn adnabyddus am ei ddawn gyda geiriau - gan ysgrifennu'r ffilm 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y 'Dolig' gyda Caryl Parry Jones a geiriau'r gân adnabyddus 'Anfonaf Angel'.
Mae manylion holl enillwyr ac enwebiadau BAFTA Cymru 2023 yma.