Hywel Gwynfryn yn derbyn Gwobr Arbennig BAFTA Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hywel Gwynfryn ar ôl derbyn ei wobr BAFTA: 'Dwi'n teimlo dipyn bach yn benysgafn!'

Mae'r darlledwr Hywel Gwynfryn wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru 2023 mewn seremoni yng Nghasnewydd nos Sul.

Roedd drama Y Sŵn, y gantores Lisa Jên a'r actorion Taron Egerton a Luke Evans ymhlith enillwyr eraill y seremoni flynyddol sy'n dathlu goreuon y byd ffilm a theledu.

Am y tro cyntaf, fe gafodd y seremoni ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd a'r gyflwynwraig Alex Jones wnaeth lywio'r noson.

Wrth gyflwyno'r wobr i'r "anhygoel, yr amryddawn Hywel Gwynfryn" fe ddywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards ei fod "yn bencampwr" cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd Cymraeg ers degawdau.

"Mae gyrfa Hywel yn rhychwantu wyth degawd - ers 1957. Ac mae ei gyfraniad, nid yn unig i'r byd darlledu ond i ni fel cenedl ac i'r Gymraeg, drwy gyfrwng sioeau cerdd, cyfrolau a chaneuon, yn amhrisiadwy.

"Hywel oedd un o leisiau amlycaf fy mhlentyndod. Fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd i ni blant y saithdegau ar raglenni fel Bilidowcar. Ac ym 1977 pan ddaeth Radio Cymru i fodolaeth, llais Hywel glywodd y gwrandawyr am y tro cyntaf.

"Mae sioeau fel Helo Bobol a Ribidirệs yn chwedlonol, a'i gyfraniad ar hyd y blynyddoedd yn aruthrol fel y gwelwn ni nawr.

"Heno Hywel, ti sydd bia'r cyfrwng a phleser o'r mwyaf yw cyflwyno'r Wobr BAFTA hon i'r 'dyn ei hun' am gyfraniad oes."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Evan yn chwarae Gwynfor Evans yn Y Sŵn, a oedd wedi cael saith o enwebiadau

Y Sŵn, sy'n dilyn hanes Gwynfor Evans wrth ymgyrchu am sianel deledu Cymraeg, oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau eleni.

Fe gipiodd dwy wobr - y Ffilm Nodwedd / Deledu orau ac yn y categori Golygu Ffuglen.

Y gantores Lisa Jên wnaeth ennill y wobr am gyflwynydd orau'r flwyddyn am ei chyfraniad i un o benodau'r gyfres Stori'r laith.

Mabinogi-ogi oedd enillydd y wobr Rhaglen Blant, a rhifyn o Y Byd ar Bedwar am gost cynnal Cwpan y Byd Qatar oedd enillydd y wobr Newyddion a Materion Cyfoes.

Enillydd gwobr Torri Trwodd Cymru eleni oedd Mared Jarman am How This Blind Girl… y ddrama gomedi y gwnaeth hi ei hysgrifennu ac actio ynddi.

Roedd yn hysbys eisoes taw Rakie Ayola fyddai'n derbyn Tlws Siân Phillips eleni, am dros 30 mlynedd o berfformiadau ym myd ffilm, theatr a theledu, ond hi hefyd wnaeth ennill y wobr am yr actores orau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rakie Ayola dderbyn Tlws Siân Phillips gan yr actor Syr Jonathan Pryce

Enillwyr ac enwebiadau 2023:

ACTOR

Enillydd: Taron Egerton - Black Bird - Apple Studios / Apple TV+

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Graham Land - Dal Y Mellt - Vox Pictures / S4C

  • Owain Arthur - The Lord Of The Rings: The Rings of Power - Amazon Studios / Amazon Prime Video

  • Rhys Ifans - House of The Dragon - HBO / 1:26 Pictures / Bastard Sword / GRRM Productions / Sky Atlantic

ACTORES

Enillydd: Rakie Ayola - The Pact - Little Door Productions / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Eiry Thomas - Y Sŵn - Swnllyd

  • Katy Wix - Big Boys - Roughcut TV / Channel 4

  • Ruth Wilson - His Dark Materials - Bad Wolf / BBC iPlayer

CYMRU TORRI TRWODD

Enillydd: Mared Jarman - How This Blind Girl... - Boom Cymru / BBC Two

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Emily Morus-Jones - Diomysus: More than Monogamy - BBC Wales & Emily Morus-Jones Production / BBC Three

  • Issa Farfour - Wales this Week and Wales at Six - ITV Cymru Wales

Disgrifiad o’r llun,

Mared Jarman yn chwarae rhan Ceri yn How This Blind Girl...

RHAGLEN BLANT

Enillydd: Mabinogi-ogi - Boom Cymru / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Gwrach y Rhibyn - Boom Cymru / S4C

  • Y Goleudy - Boom Cymru / S4C

DYLUNIO GWISGOEDD

Enillydd: Jo Thompson - Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Sarah Young - Willow - Lucasfilm Ltd. / Disney+

  • Siân Jenkins - Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

Enillydd: Chloe Fairweather - Scouting for Girls: Fashion's Darkest Secret - The Guardian / Wonderhood Studios / Sky Studios / Sky Documentaries

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Clare Sturges - Charlie Mackesy: The boy, the Mole, the Fox, the Horse and Me - Salon Charlie Ltd / BBC Two

  • Dylan Wyn Richards - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

  • Gruffydd Sion Rees - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

Enillydd: Sally El Hosaini - The Swimmers - Working Title / Netflix

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Isabella Eklöf - Industry - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Lee Haven Jones - Y Sŵn - Swnllyd

  • Richard Stoddard - Brassic - Calamity Films / Sky Max

GOLYGU: FFEITHIOL

Enillydd: Rhys ap Rhobert - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Gwyn Jones - Italia 90 - Four Weeks that Changed the World - Blast! Films / Sky Documentaries

  • John Hillanders a Dafydd Hunt - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

  • Sion Aaron - Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

GOLYGU: FFUGLEN

Enillydd: Kevin Jones - Y Sŵn - Swnllyd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Dafydd Hunt - Yr Amgueddfa - Boom Cymru / S4C

  • Johannes Hubrich - The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

  • Mali Evans - Y Golau / The Light in the Hall - Triongl / Duchess Street / S4C

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Luke Evans wobr am y rhaglen a ddarlledwyr ddydd Nadolig y llynedd, Luke Evans: Showtime!

RHAGLEN ADLONIANT

Enillydd: Luke Evans: Showtime! - Afanti / BBC Two

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

  • Gogglebocs Cymru - Cwmni Da / Chwarel / S4C

  • Stereophonics Live in Cardiff: We'll Keep a Welcome - BBC Studios / BBC One

CYFRES FFEITHIOL

Enillydd: Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • A Special School - Slam Media / BBC One Wales

  • Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

  • The Disappearance of April Jones - Blast! Films / Channel 4

FFILM NODWEDD/DELEDU

Enillydd: Y Sŵn - Swnllyd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Donna - Truth Department / Films de Force Majeure

  • Five Dates - Wales Interactive / Good Gate Media

NEWYDDION A MATERION CYFOES

Enillydd: Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan y Byd Qatar - ITV Cymru Wales / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • BBC Wales Investigates; Welsh Rugby Under the Spotlight - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • County Lines - ITV Cymru Wales / S4C

  • Llofruddiaeth Logan Mwangi - Multistory Media Cymru / ITV Studios / S4C

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

Enillydd: Sam Jordan-Richardson - Our Lives - Born Deaf Raised Hearing - On Par Productions / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Christian Cargill - Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

  • Paul Joseph Davies - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

Enillydd: Bjorn Bratberg - The Feast / Gwledd - Sgrech

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Bryan Gavigan - Y Sŵn - Swnllyd

  • David Johnson - His Dark Materials - Bad Wold /BBC iPlayer

  • Sergio Delgado - The Pact - Little Door Productions / BBC One Wales

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dau o gyflwynwyr Stori'r Iaith wedi cael enwebiad ond Lisa Jên wnaeth dderbyn y wobr

CYFLWYNYDD

Enillydd: Lisa Jên - Stori'r laith - Rondo Media / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Chris Roberts - Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

  • Emma Walford a Trystan Ellis-Morris - Prosiect Pum Mil - Boom Cymru / S4C

  • Sean Fletcher - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

DYLUNIO CYNHYRCHIAD

Enillydd: Dafydd Shurmer - Y Sŵn - Swnllyd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Daniel Taylor - Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

  • Joel Collins - His Dark Materials - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Jonathan Houlding - Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

FFILM FER

Enillydd: Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Cardiff - The Festivals Company

  • Inner Polar Bear - Gritty Realism Productions

  • Nant - Strike Pictures - 4oD

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

Enillydd: Brothers in Dance: Anthony and Kel Matsena - BBC Studios / BBC Two Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Blood, Sweat and Cheer - Little Bird Films / BBC Three

  • Jason and Clara - In Memory of Maudie - ITV Cymru Wales / ITV1

  • Spike Milligan: The Unseen Archive - Yeti / Sky Arts

SAIN

Enillydd: Sound Team The Rising - Sky Studios / De Mensen / Sky Max

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Sound Team Industry - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Sound Team The Feast / Gwledd - Sgrech

DRAMA DELEDU

Enillydd: The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Casualty - BBC Studios / BBC One

  • Persona - Cwmni Da / S4C

AWDUR

Enillydd: Russell T Davies - Nolly - Quay Street Productions / ITVX

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Joe Barton - The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

  • Pete McTighe - The Pact - Little Door Productions / BBC One

  • Roger Williams - Y Sŵn - Swnllyd

Pynciau cysylltiedig