Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig 2 ar ei ffordd!

  • Cyhoeddwyd
Y Dyn Nath Ddwyn y 'DoligFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig' ei ddangos ar S4C am y tro cyntaf yn 1985

Mae S4C yn mynd i ddechrau ffrydio rhai o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru fel rhan o bartneriaeth newydd.

Un o'r cynyrchiadau fydd 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2' sy'n ddilyniant i'r ffilm glasurol a gafodd ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf yn 1985.

Bydd tri chynhyrchiad arall hefyd yn cael eu ffrydio a byddant oll ar gael i'w gwylio ar S4C Clic yn fuan.

Mae'r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth.

Mae'r cynhyrchiad o 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2' wedi'i ysbrydoli gan y ffilm a gafodd ei chreu gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn, a'i chynhyrchu gan Endaf Emlyn.

Dywed S4C y bydd ffrydio cynyrchiadau'r Theatr Genedlaethol yn "hwyluso mynediad i'r rhai sy'n methu mynychu theatrau ac yn sicrhau mynediad i bawb i'r celfyddydau".

Ym mis Medi bydd S4C hefyd yn darlledu cyfres Anfamol sydd wedi'u seilio ar gynhyrchiad theatr o'r un enw a'r nod yw datblygu mwy o addasiadau teledu yn y dyfodol.

'Dod â'r gorau o'r theatr i sgriniau'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Un o'r pethe pwysicaf i ni gyda hwn yw sut ydyn ni fel S4C yn gallu helpu'r Theatr Genedlaethol i ddod â mwy o gynulleidfaoedd i'r theatr a bod nhw'n cael arlwy ar S4C.

"Bwriad y bartneriaeth yw dod â'r gorau o'r theatr i sgriniau pobl ble bynnag y maen nhw, gan ddenu cynulleidfa newydd at y cynyrchiadau yma.

"Ni'n gobeithio bod y peth yn gweithio ddwy ffordd, un bod pobl yn dod aton ni i weld rhywbeth fydden nhw ddim wedi cael beth bynnag neu hefyd yn gweud 'o fi'n ffansio mynd i'r theatr'... so mae'n bartneriaeth wych i ni a da ni'n gyffrous iawn amdano fe.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynhyrchiad 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2' wedi'i ysbrydoli gan y ffilm wreiddiol

Ychwanegodd: "Mae 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig' yn un o glasuron S4C a dwi yn hynod o gyffrous o fod yn gweithio'n agos gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y prosiect yma.

"Sioe gerdd fydd 'Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2' ac mae Caryl Parry Jones eto'n rhan o'r tîm fydd yn ei datblygu, gyda'r gobaith o'i chyflwyno yn 2025."

Denu cynulleidfa ehangach

Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast roedd Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig a chyd Brif Weithredwr Theatr Genedlaethol Cymru.

"Bydd hyn yn galluogi pobl i gael blas o'r gwaith gwych mae'r Theatr Genedlaethol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad," dywedodd.

"Ma' bobl yn obsessed efo'r ffilm 'ma. Ma' cymaint o alw amdani bob 'Dolig a dwi'n meddwl bod 'na gyfle yn fama i ni neud rhywbeth bach yn wahanol o ran meddwl am be fasa'n sequel i'r 'Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig', be sy'n digwydd nesa'.

"Ma' hwn yn gyfle i ni fynd nôl at glasur a dwi mor excited i weithio gyda Caryl Parry Jones a mynd ati i archwilio, ymchwilio a datblygu sioe gerdd newydd i'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau sefydliad hefyd wedi bod yn gweithio ar ddatblygiad o'r sioe 'Anfamol' ar gyfer y teledu

Ychwanegodd: "Ma' hwn yn wych o ran ehangu cynulleidfa achos da ni'n gwmni teithiol, da ni'n trio teithio'r gwaith mor agos at ddrysau pobl ag sy'n bosib... ma' hwn wedyn yn gyfle i ni ddod â gwaith theatr mewn i stafelloedd byw pobl.

"Ma' theatr fyw wrth gwrs dal yn mynd i fod "y peth" a dyna yw prif flaenoriaeth y Theatr Genedlaethol, ond pan 'da ni wedyn yn sôn am ehangu mynediad dyna pryd ma' prosiect fel hyn mor hanfodol."

Mae'r Theatr Genedlaethol hefyd wedi bod yn cyflwyno sawl sioe mewn pebyll ar draws yr Eisteddfod Genedlaethol, er nad oes Theatr y Maes eleni, teimla Mr Donnelly fod hyn hefyd yn denu cynulleidfa ehangach.

"Da ni'n teimlo bod pobl oedd ella ddim yn dod i weld theatr yn dod i weld y gwaith achos ma' nhw'n gweld 'www ma'r tent agored yma dan ei sang'.

"So dwi'n meddwl da ni'n atynnu a'n denu pobl ac mewn ffordd dyma 'di un o'r pethau craidd am y bartneriaeth yma efo S4C - mae am ddenu mwy o bobl i'r theatr... ac yn sicrhau fod pobl yn cael blas ohono fo.

"Ma' nhw'n gallu trio fo yn eu living rooms ac wedyn yn meddwl 'oce mis nesa mi ai i weld rhywbeth yn fyw' a ma'r esblygiad yna yn graidd i'r bartneriaeth."

Pynciau cysylltiedig