Leah Owen: Teyrngedau i 'berson cwbl unigryw'

Yn 70 oed bu farw Leah Owen, un o gantorion enwoca'r byd canu Cymraeg, a hynny am ddegawdau lawer.

Yn ogystal â bod yn berfformwraig lwyddiannus, bu wrthi'n hyfforddi cannoedd o blant, a rhai o'r rheiny nawr yn llwyddiannus iawn eu hunain ym myd cerddoriaeth.

Daeth llawer o anrhydeddau i Leah Owen yn sgil hynny ac yn ôl Trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant "unwaith mewn cenhedlaeth y byddai rhywun felly'n dod".

Y deyrnged yma gan Ellis Roberts i raglen Newyddion S4C.