Mentrau Iaith: 'Angen dyblu'r defnydd o'r Gymraeg'
Dyblu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd yw nod ymgyrch ddiweddaraf Mentrau Iaith Cymru (MIC) sy'n cael ei lansio ddydd Mercher.
Mae'n rhan o'r ymdrechion i wireddu amcan Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dangosodd ffigyrau Cyfrifiad 2021 ostyngiad yn y nifer a'r ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.
Mae MIC, sy'n cefnogi'r rhwydwaith o 22 o Fentrau Iaith ar draws Cymru, am "agor sianel gyfathrebu gyda'r cyhoedd i gasglu syniadau am gyfleoedd i gynyddu'r defnydd o Gymraeg yn gymunedol".
Fe fydd modd i bobl wneud hynny ar-lein, dolen allanol, ac i grwpiau cymunedol gyflwyno syniadau fel unigolion neu fel grŵp.
Dywed MIC eu bod yn "ymrwymo i ystyried bob un - cyn eu gweithredu, lle bo'n bosibl, drwy fenter iaith berthnasol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, mewn partneriaeth â chyrff eraill neu gyda'r gymuned dan sylw".
Ychwanegodd: "Efallai na fydd pob syniad yn ymarferol bosib, ond fe fydd MIC yn ymateb i bob syniad ddaw i mewn."
Wrth drafod yr ymgyrch ar raglen Dros Frecwast dywedodd cyfarwyddwr MIC Myfanwy Jones bod y syniad yn deillio o ebost ati wedi iddi gael ei phenodi i'r swydd y llynedd.
Roedd yr unigolyn yna, o Rondda Cynon Taf, yn awyddus i weld mwy o arwyddion o fewn siopau "i ddangos fod y siop neu'r busnes yn awyddus i siarad Cymraeg fel bod... siaradwyr newydd yn gallu mynd i fewn a defnyddio eu Cymraeg, yr hyn mae nhw'n dysgu yn eu gwersi".
"Dyma fi'n meddwl wedyn gymaint o syniadau da oedd ma's yna a chystal dealltwriaeth ac adnabyddiaeth oedd gan pobl ma's yna o'u cymunedau.
"O'n i'n meddwl buasai'n syniad da i agor sianel gyfathrebu rhwng y cyhoedd a'r Mentrau i weld be allwn ni wneud gyda syniadau ffres newydd cymunedol."
Un her, meddai, yw perswadio rhai unigolion sy'n nodi yn y Cyfrifiad eu bod yn medru'r Gymraeg i ddefnyddio "mwy nag ychydig o eiriau" yn eu cymunedau o ddydd i ddydd.
Her arall yw cael plant i siarad Cymraeg y tu allan i ysgolion, a'r gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn fodd i gasglu "syniadau... lle mae'r trafferthion" ac i glywed gan bobl ifanc eu hunain beth fyddai'n eu hannog i siarad mwy o Gymraeg.