Penodi Myfanwy Jones yn gyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru

  • Cyhoeddwyd
Myfanwy JonesFfynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Myfanwy Jones yn hyrwyddo gwaith y mentrau iaith fel rhan o'i rôl newydd

Mae Myfanwy Jones o Geredigion wedi ei phenodi'n gyfarwyddwr newydd ar Fentrau Iaith Cymru.

Corff ymbarél cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru, sy'n cefnogi'r rhwydwaith o 22 o fentrau iaith.

Mae'n darparu cymorth marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a chyfleoedd i rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith.

Wedi ei magu yn Lledrod, mae Myfanwy wedi gweithio fel Swyddog Datblygu'r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Gâr, ac mae ganddi brofiad cynllunio ieithyddol trwy ei gwaith i Fenter Iaith Abertawe, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a thrwy ei gwaith llawrydd yn y maes.

Y mentrau'n 'arf hollbwysig'

Fel rhan o'i dyletswyddau bydd Myfanwy yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth genedlaethol i'r Mentrau Iaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, yn ogystal â chefnogi a chynrychioli'r Mentrau Iaith a hyrwyddo eu gwaith.

Dywedodd Myfanwy: "Mae'r Mentrau Iaith yn arf hollbwysig yn ein hymdrechion i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu cefnogi a'u cynorthwyo i ddatblygu er budd y Gymraeg yn fy swydd fel cyfarwyddwr.

"Byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau a datblygu ymwybyddiaeth o waith y mentrau ar gychwyn y swydd bwysig hon."

Pynciau cysylltiedig