Cofio Barry John: Y maswr o Gefneithin a ddaeth yn 'Frenin'

Mae teyrngedau lu yn cael eu rhoi i un o gewri rygbi Cymru a'r Llewod, Barry John.

Bu farw ddydd Sul, yn 79 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

O Gefneithin yn Sir Gâr yn wreiddiol, fe gafodd y llysenw Y Brenin gan gefnogwyr oherwydd ei berfformiadau cofiadwy cyn ymddeol o'r gamp yn 27 oed yn 1972.

Dyma adroddiad Lleu Bleddyn.