Barry John, un o sêr rygbi mwyaf Cymru, wedi marw yn 79 oed
- Cyhoeddwyd
Mae seren rygbi Cymru a'r Llewod o'r 60au a 70au, Barry John, wedi marw yn 79 oed.
Mae'n cael ei ystyried gan lawer fel maswr gorau ei genhedlaeth, ac mae nifer yn credu mai ef yw'r gorau erioed.
Cafodd y llysenw 'Y Brenin' ar ôl chwarae rhan flaenllaw wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn, a phan drechodd y Llewod Seland Newydd yn 1971.
Fe enillodd 25 o gapiau dros Gymru hefyd cyn iddo ymddeol yn 1972 ag yntau ond yn 27 oed.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Bu farw Barry John yn dawel heddiw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng nghwmni cariadus ei wraig a'i bedwar o blant.
"Roedd yn Dad-cu annwyl i'w 11 o wyrion ac yn frawd tra hoff."
Daw'r newydd wythnosau'n unig wedi marwolaeth cyd-chwaraewyr sydd hefyd yn cael ei ystyried yn gawr o fewn y gamp, y cefnwr chwedlonol JPR Williams.
Cafodd Barry John ei fagu ym mhentref Cefneithin yn Sir Gâr, ac roedd yn dal yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth pan iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Lanelli.
Gan nad oedd rygbi'r undeb yn gamp broffesiynol bryd hynny, fe wnaeth John barhau i chwarae dros Lanelli tra'n astudio yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin, gyda'r nod o fod yn athro.
Ond roedd hi'n amlwg i nifer ei fod yn dalent aruthrol, ac fe wnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn 1966.
Ymunodd â Chaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach, ble ffurfiodd bartneriaeth gydag, o bosib, y mewnwr gorau erioed - Gareth Edwards.
Wedi i anaf ei orfodi i golli'r mwyafrif o daith y Llewod i Dde Affrica yn 1968, llwyddodd i ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad gyda Chymru flwyddyn wedi hynny.
Aeth Cymru ymlaen i ennill y Gamp Lawn yn 1971 - tîm sy'n cael ei ystyried fel un o'r gorau erioed, gyda John ac Edwards yn cael cwmni sêr eraill fel Gerald Davies, John Dawes, JPR Williams a Mervyn Davies.
Aeth nifer o'r tîm hwnnw ymlaen i drechu Seland Newydd gyda'r Llewod y flwyddyn honno - sy'n parhau yr unig dro i'r Llewod ennill cyfres yno.
John oedd y seren, gan sgorio 30 o'r 48 o bwyntiau y sgoriodd y Llewod yn y pedair gêm yn erbyn y Crysau Duon.
Camu'n ôl o enwogrwydd
Ond flwyddyn yn unig yn ddiweddarach roedd ei yrfa ar ben, gyda John yn dweud bod hynny oherwydd y pwysau i berfformio, ac nad oedd erioed wedi dymuno bod mor enwog.
Fe arhosodd yn rhan o'r gamp am gyfnod gan fod yn golofnydd a darlledwr, cyn penderfynu camu o'r neilltu yn llwyr.
Yn 2009 fe benderfynodd werthu llawer o'r eitemau rygbi roedd wedi'u casglu dros y blynyddoedd, gan ddweud bod yr anrhydedd o gynrychioli ei wlad yn golygu mwy iddo nac unrhyw eitem o'i eiddo.
Roedd John yn un o'r chwaraewyr cyntaf i gael ei groesawu i Oriel Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol yn 1997, ac fe gafodd ei ychwanegu at Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 1999 cyn ymuno ag oriel corff World Rugby yn 2015.
'Y Brenin am byth'
"Cwsg mewn hedd," dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mewn neges yn ymateb i'r "newyddion trist iawn"
"Am yrfa, ac am ysbrydoliaeth," ychwanegodd.
Dywedodd Clwb Rygbi Caerdydd eu bod "wedi ein llorio o ddysgu am farwolaeth Barry John," gan ei ddisgrifio fel "eicon" ac "un o'r chwaraewyr gorau i wisgo'r crys glas a du".
Ychwanegodd: "Y Brenin am byth."
Roedd yna deyrnged hefyd ar ran y Scarlets.
"Fe chwaraeodd Barry 87 o gemau i'r clwb dros bedwar tymor ac roedd yn faswr pan wnaethon ni drechu Awstralia yn 1967.
"Yn eicon o'r gêm, mae ein meddyliau gyda'r teulu, ffrindiau a chyn gyd-chwaraewyr ar yr adeg trist hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Ionawr