Teyrngedau i'r 'Brenin' a'r 'eicon' rygbi Barry John
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i'r cyn-chwaraewr rygbi Barry John yn dilyn ei farwolaeth yn 79 oed.
Mae seren rygbi Cymru a'r Llewod o'r 60au a 70au yn cael ei ei ystyried gan lawer fel maswr gorau ei genhedlaeth, ac mae nifer yn credu mai ef yw'r gorau erioed.
Cafodd y llysenw 'Y Brenin' ar ôl chwarae rhan flaenllaw pan enillodd Cymru ennill y Gamp Lawn, a phan drechodd y Llewod Seland Newydd yn 1971.
Cafodd ei ddisgrifio gan reolwyr tîm y Llewod fel "un o'r goreuon, yn wir".
Gan gydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau, fe ychwanegon nhw: "Fe wnaeth Barry ysbrydoli gymaint o bobl ac fe fydd yn cael ei gofio am byth o ran pa mor gymaint y roddodd i'r gamp."
'Oedd neb yn mynd yn agos iddo fe'
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd y darlledwr a chyn-gapten Cymru Jonathan Davies wrth BBC Cymru: "Mae'n drist iawn bod e wedyn mynd - newyddion gwael iawn.
"O'n i'n 'nabod e ers o'n i'n grwtyn bach. Es i i'r un ysgol - Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. O'dd e 'na, ei luniau ar y wal a phopeth.
"O'n i'n byw yng Nghefneithin lle cafodd e ei eni a'i godi a [wedi cael] cwpl o beints gyda fe a'i ddau frawd yn y Dinefwr Arms.
"Oedd e'n fachan ffein iawn, bachan diddorol ac yn deall y gêm yn dda iawn ac yn neis i jyst isde gyda fe a siarad gyda fe."
Dywedodd bod ei lysenw - y Brenin - yn dweud y cyfan, "yn enwedig gyda beth 'naeth e allan gyda Seland Newydd" yn ystod taith lwyddiannus y Llewod yn 1971.
"Oedd e'n wych i edrych arno fe, oedd amser gyda fe ar y bêl, 'neud y penderfyniadau iawn, ond oedd neb yn mynd yn agos iddo fe... fel o'dd e'n rheoli'r gêm, y bartneriaeth gyda Gareth [Edwards], o'dd e jyst yn wych, yn wych i edrych arno fe."
"Oedd Barry yn cael ei nabod fel y brenin, ac yn gwbl addas," meddai'r sylwebydd rygbi Huw Llewelyn Davies.
"Dim ond un Barry John oedd, a buodd e'n aros yn y cof am ei chwarae arbennig - y doniau i gyd.
"Oedd Barry mor osgeiddig, oedd e'n ymddangos fel bod cymaint o amser 'da fe i wneud popeth ar y cae... Oedd ganddo fe hyder yn ei allu e ei hunan a dim syndod achos oedd y gallu hwnnw yn rhyfeddol.
"Roedd e'n giciwr arbennig, o'i ddwylo ac at y pyst yn hwyrach ac roedd e'n gallu maeddu'r taclwr, y gwrthwynebydd ag oedd e'n ymddangos bod e ddim yn gwneud dim byd bron dim ond newid osgo ei gorff rhywfaint bach ac oedd e trwodd fel rhyw fath o ysbryd bron, chwaraewr cyflawn."
"Oedd Barry yn ffigwr canolog i lwyddiant oes aur rygbi Cymru er iddo ef orffen yn gynnar y 70au yn 27 oed.
"Mae'n golled fawr, ond mae'r atgofion am athrylith o chwaraewr rygbi ar y cae, byddan nhw'n aros gyda fi am amser hir iawn."
'Athrylith'
Dywedodd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles ar raglen Dros Frecwast mai "fe o'dd e yn un o'r goreuon, heb os".
"O'dd steil unigryw 'da fe... o'dd e'n athrylith mewn gwirionedd.
"Doedd e ddim yn edrych y cyflyma' ond mi o'dd e, ac o'dd rhyw osgo arbennig gyda fe - y ffordd o'dd e'n dal y bêl, yn enwedig gyda'r caeau fel o' nhw dyddie 'na, yn fwdlyd ac yn drwm.
"O'dd e fel 'sa fe'n arnofio ar wyneb y tir yn hytrach na rhedeg trwy'r tir.
"O'dd gallu cicio arbennig gyda fe - gôl adlam yn un o'i arbenigedd e - ond y gallu 'na i redeg, i ddeall y gêm, i wybod le oedd y lle a gwybod shwt o'dd curo dyn a sgori ceisiau yn benna', yn ei osod e uwchben fwy neu lai unrhyw un arall sydd wedi chware'r gêm."
Yn ôl Gareth Charles, roedd Barry John yn ddylanwad mawr arno.
"Odd e'n un o'r arwyr cynnar, heb os nac oni bai.
"I grwtyn y 60au, falle mai'r tri B o'dd e - y Beatles, Best a Barry - nhw o'dd yr arwyr mawr.
"Fi'n credu mai Barry John o'dd George Best y byd rygbi... o'dd e fel seren bop i ni ar y pryd."
Bu'r cyn-fewnwr, Syr Gareth Edwards, yn chwarae ochr yn ochr gyda Barry John i Gaerdydd, Cymru a'r Llewod.
"O'dd siarad Cymraeg yn help mawr, ond y dealltwriaeth - fel 'se ni gyd wedi cael ein magu o'r un fath o bentre'," meddai ar Dros Frecwast.
"Gerald [Davies] a Barry yn dod o ardal Caerfyrddin a fi o ben Gwauncaegurwen... Cymraeg o' ni'n siarad ac o'dd teimlad o ddeall ein ffordd o chware'.
"Da'th Barry hefyd i Gaerdydd a Gerald yn chware i Gaerdydd hefyd, so gethon ni lot o sbort a sbri a dealltwriaeth o chware'r gêm gyda'n gilydd.
"O'dd e'n rhwydd ofnadwy... o'dd dim byd yn broblem i Barry.
"Falle bydde 100,000 o bobl yn edrych ar y gêm ond do'dd dim byd yn broblem i fe... os o'n i'n gofyn 'fel ti moyn y bêl Barry?' a bydde fe'n dweud 'Twla di hi a ddala i hi'... dyna'i ateb e a dyna ei ateb i lot o bethe mewn bywyd... o'dd e'n rhwydd ofnadwy."
Dywedodd Syr Gareth Edwards hefyd iddo gael ei synnu pan gyhoeddodd Barry John ei fod am ymddeol yn 27 oed.
"Fi'n credu o'dd fwy i ddod wrth Barry, er iddo fe chware gyda'r gorau yn y byd dros y blynydde'.
"O'n i wedi chwarae gyda fe i Gymru, i'r Llewod ac i Gaerdydd a fi'n credu o'dd shwt gymaint mwy ganddo fe i ddangos i bobl.
"O'dd e'n bleser i chware gyda fe... o'dd e'n gallu darllen y gêm mor rhwydd."
'Duw rygbi Cymru'
Dywedodd cyn-gapten arall ar y tîm cenedlaethol, Sam Warburton bod y newyddion yn "sioc".
"Yng Nghymru, ni alla'i fynegi gymaint o barch sydd gan bobl at y grŵp yna o chwaraewyr yn y 1970au, ac yn enwedig pobol fel Barry John oedd fel Duw rygbi Cymru," dywedodd.
"Mae'r hyn a gyfrannodd i'r gêm, hyd yn oed nawr hanner can mlynedd yn ddiweddarach, yn dal uwchlaw rygbi ar draws y byd a dyw e heb godi pêl ers 50 mlynedd.
"Mae'n brawf pendant gymaint o ddylanwad y cafodd ar y gêm... colled anferth a newyddion trist iawn."
Roedd y cyn-asgellwr John Huw Williams, sy'n wreiddiol o Ystalyfera, yn chwarae gyda Barry John yn y 60au ac yn ei gêm gyntaf i dîm Caerdydd yn erbyn Torquay.
"O'dd ambell i gêm, o'dd tri chwarter o' ni'n siarad Cymraeg... o'dd Gerald Davies, Ken Jones, Gary Samuel, Ceri Jones a finne'," meddai ar Dros Frecwast.
"O' ni gyd o'r ardal yna ac o' ni'n siarad Cymraeg.
"O'dd e wastad yn 'nabod pawb... o'dd e'n gyfforddus yn siarad a o'dd amser gyda fe i blant yn enwedig.
"Amser o'dd e'n dod mewn i glwb Caerdydd, o' ni'n lwcus i ga'l e 'na... o'dd amser 'da fe i siarad gyda pob un.
"Brenin o'dd e."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020