George North: Yr asgellwr oedd yn edrych fel rheng ôl

Bydd George North yn chwarae ei gêm olaf dros Gymru ddydd Sadwrn yn erbyn Yr Eidal, a hynny wedi gyrfa ryngwladol lewyrchus sydd wedi para bron i 15 mlynedd.

Cyn-asgellwr Cymru Shane Williams fu'n hel atgofion ar Dros Frecwast o'r tro cyntaf iddo gwrdd â'r dyn ifanc 18 oed o Fôn nôl yn 2010.