George North: Ei yrfa mewn lluniau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd George North mai ymddeol o rygbi rhyngwladol yw'r "peth iawn i fi a fy nheulu"

Dydd Mercher fe ddaeth y cyhoeddiad mai gêm Cymru yn erbyn Yr Eidal ar 16 Mawrth fydd ymddangosiad olaf George North dros ei wlad.

Mae wedi bod yn rhan allweddol o garfan Cymru ers 14 mlynedd, gan ymddangos yng Nghwpan y Byd bedair gwaith.

Yn wir, George North yw'r Cymro cyntaf erioed i chwarae yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd bedair gwaith.

Dywedodd Cennydd Davies, prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, ei fod yn "newyddion fydd yn ergyd drom i rygbi Cymru".

"Fe gyfaddefodd George North ei hun nad oedd yn meddwl y byddai'r diwrnod yma byth yn dod, ac i'r cyhoedd hefyd mi fydd yn anodd i brosesu, oherwydd i raddau i ni dal yn meddwl amdano fel y chwaraewr 18 oed wnaeth ffrwydro ar y lefel rhyngwladol a sgorio ddwywaith yn erbyn Bryan Habana a De Affrica yn 2010.

"Mae'r ystadegau'n adrodd cyfrolau. Wedi 121 o gapiau a 47 o geisiau dros Gymru [hyd yma], ynghyd â'i gampau dros Y Llewod, mi fydd North yn cael ei gofio fel un o'r gorau erioed yn ei safle, ac mae'n sicr o'i le yn oriel anfarwolion Cymru."

Dyma gipolwg ar yrfa George North mewn lluniau.

Disgrifiad o’r llun,

George yn chwarae dros Goleg Llanymddyfri, ble astudiodd yn y chweched dosbarth

Disgrifiad o’r llun,

Yn chwarae dros y Scarlets dan-18 yn erbyn Y Gweilch ym Mhencampwriaeth Rhanbarthau dan-18, yn 2009

Disgrifiad o’r llun,

Sgorio yn erbyn Treviso ar ei ymddangosiad cyntaf dros y Scarlets, 2010

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgorio dau gais yn erbyn y Springboks ar ei gap cyntaf, 13 Tachwedd 2010

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd 2011

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn codi tlws y Chwe Gwlad wedi i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 2012

Disgrifiad o’r llun,

Tad George North, Dave, yn llawn emosiwn yn rhedeg ar y cae wedi i'w fab sgorio yn erbyn Ffrainc ym Mharis, 2013

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun eiconig o daith Y Llewod i Awstralia yn 2013; North yn cario Israel Folau ar ei gefn wrth redeg gyda'r bêl ym Melbourne - 29 Mehefin, 2013

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu buddugoliaeth Northampton dros Saracens yn rownd derfynol Uwchgyngrair Lloegr gyda Luther Burrell, 31 Mai 2014

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Warren Gatland yn rhoi cyngor i North ac Alex Cuthbert ychydig ddyddiau cyn dechrau Cwpan y Byd 2015

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn ymarfer yn y pwll nofio yn ystod Cwpan y Byd 2015

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ei flwyddyn gyntaf gyda'r Gweilch yn chwarae yn erbyn ei gyn-glwb, y Scarlets, 6 Hydref 2018

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu ei gais cyntaf o ddau yn erbyn Ffrainc yn y glaw, 1 Chwefror 2019

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Camu tua'r cae i ennill ei 100fed cap yn erbyn Lloegr, 27 Chwefror 2021

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillwyd y Goron Driphlyg y dydd hwnnw - y 22ain tro i Gymru ennill yr anrhydedd

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i gyfaill Dan Lydiate yn Ffrainc, Cwpan y Byd 2023

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Croesi'r llinell gais yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd 2023

Hefyd o ddiddordeb: