George North i ymddeol o rygbi rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae canolwr Cymru, George North wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Y gêm gartref yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn fydd y tro olaf i North, 31, gynrychioli ei wlad.
Mae'r gŵr o Fôn wedi ennill 120 o gapiau hyd yma - dim ond Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins sydd wedi chwarae mwy o gemau yn y crys coch.
Bydd North yn parhau i chwarae i'w glwb, wedi iddo gyhoeddi y bydd yn symud o'r Gweilch i Provence yn Ffrainc y tymor nesaf.
North yw'r enw mawr diweddaraf i ymddeol o rygbi rhyngwladol, gan ddilyn Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Rhys Webb, Dan Biggar a Leigh Halfpenny.
Roedd wedi awgrymu yn wreiddiol y byddai'n hoffi parhau i chwarae i Gymru er y symudiad i Ffrainc.
Ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw fwriad i roi'r gorau i rygbi rhyngwladol.
Ond fe ddywedodd Warren Gatland ei fod wedi cynnal "trafodaethau gonest" gyda North ynglŷn â'i allu i chwarae mewn pumed Cwpan Rygbi'r Byd.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni chafodd North ddim ei ddewis ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn yr Alban, a hynny er iddo wella o anaf.
Fe ddychwelodd i'r tîm wnaeth herio Lloegr ac Iwerddon, cyn colli ei le ar gyfer y golled yn erbyn Ffrainc.
Mae North wedi ei ddewis fel canolwr ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Yr Eidal.
Bydd Cymru yn ceisio osgoi'r llwy bren am y tro cyntaf ers 2003 ar ôl colli eu pedair gêm flaenorol yn y gystadleuaeth eleni.
'Gwireddu fy mreuddwyd'
Mewn datganiad ar wefan X, dywedodd North: "Rydw i wedi penderfynu mai'r gêm ddydd Sadwrn fydd yr olaf yn fy ngyrfa ryngwladol.
"Wedi 14 mlynedd mae'n teimlo fel mai nawr yw'r amser iawn i gymryd cam yn ôl.
"Rydw i wedi caru bob eiliad gwerthfawr mewn crys coch, ac wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr arbennig.
"Rwy'n ffodus iawn i fod wedi gallu gwireddu fy mreuddwyd.
"Rwy'n edrych 'mlaen at y bennod nesaf. Diolch i chi gyd am yr holl gefnogaeth dros y blynyddoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Awst 2023