Ydych chi'n adnabod Vaughan Gething?
Fe fydd Aelodau o'r Senedd ym Mae Caerdydd yn cynnal pleidlais ddydd Mercher i ddewis prif weinidog nesaf Cymru.
Ddydd Mawrth oedd diwrnod olaf Mark Drakeford yn y swydd wedi iddo ymddiswyddo a chamu'n ôl o fod yn arweinydd Llafur Cymru.
Y Gweinidog Economi presennol, Vaughan Gething, enillodd y ras i'w olynu fel arweinydd y blaid, gan drechu ei gyd-ymgeisydd, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Mr Gething felly fydd enwebiad ei blaid i fod yn brif weinidog hefyd, er mae dadlau'n parhau dros roddion dadleuol i'w ymgyrch arweinyddiaeth - gan fod Llafur yn dal union hanner y seddi yn y Senedd, bydd angen pleidlais pob un o'i gyd-Lafurwyr.
Fe gafodd ei ethol i'r Cynulliad, fel ag yr oedd, yn 2011 ac yna ei benodi i'r llywodraeth yn 2013.
Mae digon o brofiad ganddo felly - ond i ba raddau mae pobl yn ei adnabod ar lawr gwlad?
Dyna oedd cwestiwn ein gohebydd Meleri Williams ar strydoedd Rhydaman.