Pum peth sy'n diffinio cyfnod Mark Drakeford fel prif weinidog
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi wynebu cwestiynau gan Aelodau o'r Senedd am y tro olaf, a hynny cyn ymddiswyddo yn ffurfiol yn ddiweddarach.
Fe safodd aelodau yn y siambr i gymeradwyo Mark Drakeford ar ddiwedd y sesiwn holi wythnosol ac ar ddiwedd datganiad ganddo wrth i'w gyfnod wrth y llyw ddod i ben.
Roedd yn emosiynol wrth ddiolch i ASau am eu caredigrwydd ato yn dilyn marwolaeth ei wraig, Clare, y llynedd.
Ond fe orffennodd ei ddatganiad gan ddweud ei fod "yn fwyaf diolchgar i'w holl bobl rydym yn ffodus i'w gwasanaethu".
Bydd ei gynnig i ymddiswyddo yn cael ei ystyried gan y Brenin, ac mae disgwyl i'w olynydd, Vaughan Gething, gymryd yr awenau ddydd Mercher ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd.
Os yw'r gwrthbleidiau yn cynnig enwebiadau eu hunain ar gyfer y rôl, yna bydd pleidlais yn cael ei chynnal ymhlith Aelodau'r Senedd.
Yn dilyn gwaharddiad Rhys ab Owen o'r Senedd, mae gan Lafur Cymru fwyafrif bychan, felly y disgwyl yw y bydd enwebiad Mr Gething yn cael ei gymeradwyo.
Mi fydd Mark Drakeford yn parhau fel yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd am y tro, ond mae eisoes wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf.
Wrth adlewyrchu ar ei bum mlynedd fel prif weinidog mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod wedi dewis taclo'r materion "anodd a mwyaf heriol" yn hytrach na threulio ei amser yn "eistedd yn ôl a gwneud y pethau hawdd".
A dwi'n siŵr mai fel yna y byddai'n licio cael ei gofio, fel rhywun oedd yn fodlon gwneud penderfyniadau anodd er budd pobl Cymru.
Ond wrth gwrs fe fydd gan bobl eraill eu barn eu hunain. Felly beth fydd y pum peth fydd yn diffinio ei gyfnod fel prif weinidog?
Pandemig
Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gofio'n bennaf am ei arweinyddiaeth yn ystod y pandemig.
Fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd i lawer ar draws y Deyrnas Unedig, ac fe gafodd gryn glod am y ffordd y llywiodd Cymru drwy gyfnod anodd Covid.
Roedd yr academydd tawel a meddylgar yn cael ei weld fel pâr saff o ddwylo, yn enwedig o'i gymharu â Boris Johnson.
Roedd llawer yn gallu uniaethu gyda'i benderfyniad i fyw mewn adeilad yn yr ardd er mwyn cadw ei deulu yn saff.
Ond roedd ganddo'i feirniaid - roedd yna rai pobl yn credu ei fod yn rhy ofalus, ac yn gosod gormod o gyfyngiadau ar fywydau pobl, yn enwedig pan oedd y rheolau yn wahanol i Loegr.
Yn fwy diweddar mae wedi cael ei feirniadu am beidio â chytuno i ymchwiliad penodol i Gymru.
Ac roedd 'na rwystredigaeth gan rai wrth iddo roi tystiolaeth i ymchwiliad y Deyrnas Unedig, nad oedd o wedi dangos unrhyw edifeirwch na chymryd unrhyw fai am y penderfyniadau wnaed yn ystod y pandemig.
Ffyrdd
Ond i eraill y polisi 20mya fydd ei waddol pennaf - a'r dicter mae llawer wedi'i deimlo ynghylch y newid.
Mae Mark Drakeford wedi dweud nad oedd "wedi disgwyl" yr ymateb cryf i gyflwyno'r terfyn cyflymder. Ond mae'n grediniol ei fod yn newid pwysig er mwyn achub bywydau.
Gwneud y peth iawn, nid y peth poblogaidd yw ei gred. Ond mae hynny'n aml yn golygu nad ydy o'n gallu gweld pam fyddai eraill yn anghytuno.
Mae'r penderfyniad i beidio ag adeiladu unrhyw ffyrdd newydd hefyd wedi bod yn ddadleuol, a hyd yn oed wedi arwain at anniddigrwydd o fewn ei blaid ei hun.
Ar ddechrau ei arweinyddiaeth fe ddywedodd ei fod eisiau bod yn radical, ond os nad ydych chi'n gallu dod â phobl efo chi ar y siwrne wrth gyflwyno newidiadau mawr, yna mae 'na beryg y bydda rhai pobl yn eu gweld fel problem.
Hefyd o ddiddordeb:
Ffermio
Mae'r ystyfnigrwydd a diffyg hyblygrwydd yna wedi arwain at ffrae hefo ffermwyr yn ddiweddar hefyd.
Mae o wedi cael ei gyhuddo o ddangos dirmyg tuag at ffermwyr sy'n anhapus gyda'r newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth.
Mae o wedi dadlau bod "newid yn anochel" er mwyn taclo newid hinsawdd, rhywbeth mae o'n amlwg yn angerddol amdano.
Ond mae ffermwyr yn dadlau nad ydy o wedi ystyried y niwed y gallai wneud i'w busnesau nhw.
Mae Mr Drakeford wedi mynnu bod y llywodraeth yn gwrando, ond fe danseiliwyd y ddadl yna rhywfaint pan ddywedodd hefyd na all amaethwyr benderfynu beth i'w wneud ag arian cyhoeddus, a bod y cynlluniau yn cael eu cyflwyno gan fod ffermwyr wedi pleidleisio o blaid Brexit.
Dŵr coch clir
Fel ymgynghorydd i Rhodri Morgan, fe wnaeth Mark Drakeford sgwennu'r araith enwog am "ddŵr coch clir".
Tri gair syml oedd yn amlinellu gweledigaeth wahanol yng Nghymru i'r hyn yr oedd Llafur Newydd yn ei gynnig.
Ac fel prif weinidog mae Mark Drakeford wedi parhau i ddilyn ei drywydd ei hun, sydd wedi achosi tensiynau gyda'r arweinydd Prydeinig Syr Keir Starmer ar adegau.
Ond wrth barhau gyda'r brand Llafur Cymreig mae o wedi mwynhau llwyddiant etholiadol hyd yn oed pan fo'r blaid yn ei chael hi'n anodd mewn ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig.
Colli ei dymer
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar adegau mae Mark Drakeford wedi'i chael hi'n anodd derbyn beirniadaeth, yn enwedig os ydy o'n dod gan y Ceidwadwyr.
Mae wedi dod dan gryn dipyn o bwysau am y problemau o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Ond fe ffrwydrodd mewn dicter yn y Senedd pan fynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies atebion am yr amseroedd ateb ambiwlansys gwael.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024