Vaughan Gething wedi ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
VGFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad mai Vaughan Gething fydd arweinydd nesaf Llafur yng Nghymru mewn cynhadledd yng Nghaerdydd fore Sadwrn

Mae disgwyl i Vaughan Gething fod yn brif weinidog nesaf Cymru ar ôl ennill etholiad arweinyddiaeth Llafur.

Fe drechodd Mr Gething, y dyn du cyntaf i arwain Cymru, ei unig wrthwynebydd Jeremy Miles.

Ond fe ddaeth ei ymgyrch fel arweinydd dan y lach yn sgil £200,000 o roddion gan gwmni gwastraff dadleuol yng Nghaerdydd.

Daeth hi i'r amlwg yn fuan wedi'r cyhoeddiad fore Sadwrn fod canlyniad y bleidlais yn agos iawn - 51.7% i 48.3%.

Mae disgwyl i Mr Gething gymryd lle Mark Drakeford fel prif weinidog yr wythnos nesaf.

Ar hyn o bryd mae'n weinidog economi yng nghabinet Mr Drakeford.

'Troi dalen newydd'

Yn ei araith wrth dderbyn y canlyniad, gan gyfeirio at ei hun fel "arweinydd du cyntaf Ewrop", fe ddechreuodd Vaughan Gething trwy ganmol ei ragflaenydd.

Fe ddisgrifiodd Mark Drakeford fel "yr arweinydd cywir ar yr adeg cywir yn ystod y pandemig".

Roedd yna ganmoliaeth hefyd i'w gyd-ymgeisydd Jeremy Miles, a fyddai wedi bod yn arweinydd hoyw cyntaf Cymru, am roi "gobaith newydd" i fechgyn a genethod Cymreig "a allai fod fel arall wedi meddwl yn wahanol iawn am fywyd cyhoeddus yma".

Ychwanegodd: "Heddiw, rydym yn troi dalen yn llyfr hanes ein gwlad."

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw

Pynciau cysylltiedig