Pobl ifanc heb eu brechu oherwydd pryder sgileffeithiau?
Mae nifer y bobl ifanc sy'n mynd am frechlyn wedi dechrau arafu, yn ôl data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf hefyd fod llai na 60% o blant 16 ac 17 oed yn siroedd Conwy a Dinbych wedi cael eu dos cyntaf, y canran isaf yng Nghymru.
Ar y llaw arall, mewn ardaloedd fel Powys a Rhondda Cynon Taf mae dros 78% o'r rheiny yn y categori oedran hwnnw wedi cael pigiad.
Mae Lisha ac Anna yn byw yn Sir Ddinbych ac eisoes wedi cael eu brechu, fel y rhan fwyaf o'u ffrindiau.
Ond maen nhw'n dweud eu bod nhw hefyd yn ymwybodol o bobl ifanc sydd wedi bod yn llai parod i fynd am frechiad, weithiau oherwydd pryder am y sgileffeithiau posib.