Pryderon yng nghefn gwlad am ymlediad coronafeirws

  • Published
TractorImage source, Getty Images
Image caption,

Mae na bryder ymysg cymunedau cefn gwlad am ymlediad coronafeirws

Wrth i goronafeirws ymledu drwy'r DU, mae dinasoedd fel Casnewydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer yr achosion.

Ond mae pryderon ymysg pobl yng nghefn gwlad Cymru nad yw'r haint wedi cyrraedd ei ben llanw yno eto.

Mae aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor a Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio fod yr haint "ymhob cymuned yn barod".

"Dydw i ddim yn credu ein bod yn yr un sefyllfa â Gwent, ond mae pobl yn meddwl fod ardaloedd cefn gwlad yn glir o'r haint - a dydyn nhw ddim," meddai.

"Mae'r haint ymhob cymuned ond does ganddom ni ddim prawf o hynny."

'Amhosib cau ein fferm'

Image source, Llun teulu
Image caption,

Mae'r ffermwr Aled Jones yn pryderu am ei fam sydd yn 95 oed

Mae'r ffermwr llaeth 59 oed Aled Jones yn byw a gweithio ger Caernarfon.

Dywed ei fod yn amhosib iddo gau ei fferm ond mae wedi bod yn atgoffa ei weithwyr o'r angen am ymbellhau'n gymdeithasol.

"Mae fy mam 95 oed yn byw gyda ni felly mae'n hanfodol fod fy ngwraig a mi, fel gofalwyr, ein bod yn osgoi mynd i gyswllt gydag unrhyw beth fyddai'n ei ddod i'r tŷ", meddai.

"Dwi'n ofni petai darn o gyfarpar hanfodol y parlwr godro yn torri.

"A dwi ar bigau'r drain rhag ofn y bydd un o fy mhroseswyr llaeth yn mynd i drafferthion a darganfod nad oes ganddyn nhw ddigon o weithwyr i redeg eu busnes."

Dywedodd ei fod yn teimlo cydymdeimlad gyda'r llywodraeth ar hyn o bryd.

"Does neb wedi gorfod delio gydag unrhyw beth fel hyn o'r blaen," meddai.

"Mae modd i chi gysuro eich hun i raddau, am eich bod yn byw mewn ardal llai poblog, na fydd yr haint yn cyrraedd yma yn yr un ffordd.

"Ond mae hynny'n dibynnu ar bawb sydd yn byw yn y cymunedau hyn, a'r rhai sydd yn dod yma, yn cymryd camau i gadw'r ardaloedd hyn fel maen nhw."

Pryder am ail gartrefi

Image caption,

Mae arwyddion wedi ymddangos mewn nifer o ardaloedd cefn gwlad yn galw ar bobl i gadw draw

Mae na alwadau wedi bod ar berchnogion ail gartrefi a charafanwyr i beidio dod i Gymru i hunan ynysu rhag coronafeirws.

Dywed y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli ardal y Bala ar Gyngor Gwynedd, mai dyma oedd "y prif destun trafod yn y gymuned".

"Mae'r ardal hon yn dibynnu ar dwristiaeth - rydym wedi eu croesawu yma ers Oes Fictoria", meddai.

"Mae pobl y Bala yn bobl groesawgar; mae'n rhan o'r economi.

"Ond mae'r sgyrsiau wedi newid. Mae pobl yn bryderus ac maen nhw'n flin."

Ychwanegodd fod pobl leol yn pryderu nad oedd Covid-19 "yn bell i ffwrdd".

"Dydan ni ddim yn sôn am bellter anferth rhyngddo fo a ni," meddai.

"Ac yna'r pryder yw os bydd yn dod yma pa mor bell ydan ni o'r ysbyty leol - da ni bron awr i ffwrdd."

'Rwyf i am weld pobl'

Image source, Llun teulu
Image caption,

Bu'n rhaid i Laura Ridgway gau ei busnes glampio cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym

Mae Laura Ridgway, 43, yn rhedeg busnes gwersylla glampio gyda'i gŵr yn Sir Benfro.

Fe wnaeth y ddau gau eu busnes ddiwrnod cyn i gyfyngiadau caeth y llywodraeth ddod i rym, o achos eu pryderon am goronafeirws.

"Hyd yn oed ar ôl y lockdown roedden ni'n derbyn ymholiadau gan bobl oedd yn gofyn os oedden ni ar agor, ac roedd yn rhaid i ni ddweud wrthyn nhw ein bod wedi cael ein gorfodi i gau" meddai Laura.

Bellach mae realiti'r sefyllfa o fyw i ffwrdd o bobl eraill yn ei tharo am y tro cyntaf.

"Rwyf i am weld pobl eto," meddai.

"Rydym wedi cael gaeaf ynysig am fod y safle ar gau. Does ganddom ni ddim cymdogion agos ac fe all y gaeafau fod yn eithaf unig. Ar ben hyn fe allen ni fod yn hunan ynysu am fisoedd i ddod. Mae'n eithaf anodd."

Ychwanegodd: "Roedd pobl yn dweud fod Penfro'n gymdeithas cefn gwlad lle nad oedd gofal iechyd ar stepen eich drws, a petai na fewnlifiad sydyn o ymwelwyr fe fyddai'r pwysau'n fwy nag arfer."

Dywedodd y byddai'n hapus i weithwyr hanfodol ddefnyddio'r llety ar ei safle am ddim os oedd angen.

Sefyllfa'r ysbytai

Mae Dr Phil White yn byw ar Ynys Môn ac mae'n gadeirydd ar bwyllgor Cymreig Cymdeithas Feddygol y BMA.

"Y broblem gyda bywyd cefn gwlad ydi fod yr ysbytai wedi eu paratoi ar gyfer nifer fechan o bobl," meddai.

"Felly mae'n rhaid iddyn nhw gynyddu'r ddarpariaeth rhag ofn y bydd pethau'n gwaethygu.

"Rydym yn trin pob claf fel petai ganddyn nhw Covid."

Ychwanegodd fod "elfen" o bryder am bobl yn defnyddio tai haf, gan ddweud fod teithio wedi bod yn broblem yn achos yr Eidal, sydd wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad i'r haint.

'Rhwydweithiau hanfodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Rydym yn gwybod fod cymunedau cefn gwlad yn darparu rhwydweithiau hanfodol yn ystod yr amser anodd hwn ac fe allai'r pandemig arwain at lawer o bobl sydd yn byw mewn ardaloedd cefn gwlad i deimlo'n ynysig.

"Hoffem sicrhau fod pobl sydd yn byw mewn cymunedau cefn gwlad yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i sicrhau eu lles, ac fe fyddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth lle mae'n bosib."