'Yr her fwyaf erioed' i elusen feddygol St John
- Cyhoeddwyd
Mae St John Ambulance Cymru yn paratoi ar gyfer yr her fwyaf yn hanes 102 o flynyddoedd yr elusen.
Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae miloedd o wirfoddolwyr yr elusen yn cael eu hyfforddi i gefnogi'r gwasanaeth iechyd.
Yn ogystal â gweithio mewn ambiwlansys, mi fydd eu gwaith yn cynnwys staffio ysbytai maes a "llenwi bylchau" lle mae eu hangen.
Ond mae penaethiaid wedi dweud wrth BBC Cymru bod y sefydliad yn wynebu heriau ariannol enfawr.
Yn ôl James Shaughnessy, cyfarwyddwr gweithrediadau'r elusen, mae'n amser heb ei debyg iddyn nhw ac i'r wlad.
"Ni wedi bod yng Nghymru ers ychydig dros ganrif ac mi fyswn i'n dweud mai dyma'r weithred fwyaf erioed i ni a'r her fwyaf ni erioed wedi ei hwynebu," meddai.
"O Fôn i'r Bari, mae gennym ni bobl yn gweithio ar ambiwlansys, yn rhyddhau'r gwasanaethau brys i ddelio â'r sefyllfaoedd mwyaf difrifol.
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ar ddydd Llun y Pasg
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
"Ni hefyd yn rhoi hyfforddiant i'n gwirfoddolwyr er mwyn iddyn nhw allu gweithio mewn ysbytai.
"Mae'n deg dweud eu bod nhw'n bryderus ond yn benderfynol i roi popeth sydd ganddyn nhw i gefnogi pobl Cymru pan maen nhw wir ei angen."
'Cyfnod anodd iawn'
Mae apêl frys am roddion wedi cael ei chyhoeddi ar ôl i'r incwm mae'r elusen yn ei chael am hyfforddi a chynnig cymorth cyntaf yn ystod digwyddiadau mawr ddiflannu oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
"Yn ariannol, mae'n gyfnod anodd iawn i ni - a tra ein bod ni'n derbyn llai o arian mae'n rhaid i ni wario mwy," meddai Mr Shaughnessy.
Ar draws Cymru mae gan St John Ambulance Cymru tua 4,000 o wirfoddolwyr a 150 o staff.
Yn ôl Nigel Morgan, swyddog hyfforddi, mi fydd ganddyn nhw rôl hollbwysig.
"Ni'n addasu ein hyfforddi ac yn treulio llawer o amser yn sicrhau bod pobl yn ddiogel a pharod i wynebu'r hyn sy'n dod. Does dim amheuaeth, mae'n ymdrech enfawr," meddai.
'Ddim yn amser i gamu yn ôl'
Ychwanegodd un o wirfoddolwyr yr elusen, Trisha France: "Dyma un o'r bygythiadau mwyaf i ni fel gwlad ei wynebu ers y rhyfel.
"Dwi ddim yn meddwl bod hi'n amser i ni gamu yn ôl a dweud 'fe wna i tro nesaf'."
Byddai Teresa Easter, gweithredydd gwerthiannau, fel arfer allan yn "ymweld â chleientiaid sydd â diddordeb yn ein cyrsiau cymorth cyntaf neu iechyd a diogelwch".
Ond nawr, mae hi'n helpu'r tîm trafnidiaeth trwy lanhau ambiwlansys.
"Fe wnes i neidio ar y cyfle - mae pawb yn chwarae eu rhan," meddai.
"Mae'n helpu i roi golwg bach mwy positif ar bethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020