'Straeon arswydus' am ddiffyg offer diogelwch ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae undebau yn clywed "straeon arswydus" am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ôl un llefarydd.
Daw hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 15 person wedi marw o achos COVID-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 384.
Daeth cadarnhad hefyd bod 313 person yn ychwanegol wedi profi'n bositif i COVID-19 yng Nghymru dros yr un cyfnod. Daw hynny a chyfanswm yr achosion positif i 5,610, ond mae meddygon yn tybio hefyd bod y nifer go iawn y uwch na hynny mewn gwirionedd.
Pryder am ddiffyg cyfarpar
Dywed Shavanah Taj, o TUC Cymru, fod nyrs arweiniol mewn ysbyty ger Caerdydd wedi gorfod chwilio am gogls arlein, gan fod dim ond digon i bedwar nyrs allan o 40 ar gael.
Mae TUC Cymru, sydd yn cynrychioli llu o undebau Cymreig, wedi galw am well eglurder am y ddarpariaeth o offer diogelwch i staff.
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod ysbytai'n derbyn digon o gyfarpar diogelwch PPE ar hyn o bryd.
Ond mae Ms Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, wedi galw ar i "arolygwyr annibynnol fynd allan a sicrhau fod y cyflenwadau'n cyrraedd y llefydd lle mae eu hangen."
'Archebu ar Amazon'
Dywedodd wrth BBC Radio Wales fore dydd Llun: "Rydym yn clywed straeon arswydus nawr, o ran gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n brwydro coronafeirws."
Dywedodd fod meddyg wedi cysylltu gyda TUC Cymru am ward "Covid positif" yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Llanddochau, ger Caerdydd.
"Fe ddywedodd fod nyrs arweiniol o'r ward ar wefan Amazon ar hyn o bryd, yn ceisio gweld os oedd modd cael gafael ar gogls garddio, gan mai dim ond pedwar feisor rhwng 40 sydd yno, heb ystyried pobl eraill.
"Felly roedd yn ofnus iawn a phryderus iawn."
Roedd y sefyllfa yn yr ysbyty "wedi gwella rhywfaint" ers hynny, meddai.
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ar ddydd Llun y Pasg
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd Llywodraeth Cymru dros y penwythnos ei fod wedi darparu "8,000,000 darn ychwanegol o gyfarpar diogelwch PPE".
Galwodd Ms Taj am fwy o fanylion: "Ble mae'r stoc yn cael ei gadw nawr, sut mae'n cael ei archebu, pa fath o fygydau a gwisgoedd diogelwch sydd wedi cael eu harchebu?" meddai.
Daw hyn wedi i undeb Unsain ddweud fod diffyg offer diogelwch PPE yn "lladd" staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd.
Cyfarwyddwr Meddygol
Dywedodd Dr Stuart Walker, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro nad oedd yn ymwybodol o'r digwyddiad yr oedd Ms Taj wedi ei gyfeirio ato yn yr ysbyty dan sylw.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r digwyddiad penodol yna, ond mae Ybyty Llanddochau yn un o ysbytai ein bwrdd iechyd.
"Rwy'n hyderus fod ganddo ni y nifer cywir o PPE ond yn hapus i ystyried hyn gan edrych ar y mater," meddai.
"Fy nealltwriaeth i, wedi treulio amser ar y wardiau fy hun, ydi fod lefelau digonol o PPE ar gael."
Ymateb y llywodraeth
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau fod ein holl staff rheng flaen GIG a staff gofal cymdeithasol yn derbyn yr amddiffyniad a'r gefnogaeth orau sydd ei angen iddyn nhw gwblhau eu dyletswyddau hanfodol - yn cynnwys gweithio gydag undebau llafur, cyrff iechyd, rheoleiddwyr a llywodraeth leol.
"Hyd yn hyn rydym wedi dosbarthu 10.4m eitem o PPE o'n stoc pandemig, sy'n uwch na'r cyflenwad cyffredin.
"Rydym yn gweithio gyda gweddill y DU i sicrhau fod cyflenwad digonol o PPE ac rydym yn gweithio gyda busnesau Cymreig i gynhyrchu PPE yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod cyfarpar PPE ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol."
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020