Fy stafell i: 'Dolig teulu Glanaethwy
- Cyhoeddwyd
Mae Cefin a Rhian Roberts, cyfarwyddwyr Ysgol Glanaethwy, yn addurno pob ystafell yn eu tŷ yn barod ar gyfer y Nadolig bob blwyddyn. Mi gafodd Cymru Fyw gipolwg ar yr addurniadau trawiadol a chlywed rhagor am y traddodiad teuluol. Iolo Penri yw'r ffotograffydd:
Mae'n draddodiad ers i ni symud i'r tŷ yma yn 1982, ond mae o wedi datblygu yn flynyddol! Mae pob ystafell yn y tŷ yn cael triniaeth wahanol, a'r thema ydy gwahanol liwiau, yn dibynnu ar beth sy'n gweddu i'r ystafell.
Mae gynnon ni bedair coeden o gwmpas y tŷ, ac maen nhw'n wahanol iawn. Pan fyddwn ni'n addurno'r tŷ ar unrhyw adeg, fyddai'n meddwl am y Nadolig a chadw'r addurniadau mewn cof a beth fyddai'n gweddu yn dda. Thema'r ystafell fwyta ydy gwyrdd, coch ac aur traddodiadol.
Mae 'na 12 diwrnod Dolig, ac mae eisiau g'neud rhywbeth bob dydd am 12 diwrnod. Fyddwn ni'n mynd o gwmpas y teulu a mynd i dŷ ffrind am noson murder mystery ar ôl y Nadolig. Mae'n gymaint o hwyl. Mae'n gyfnod pan fydd y teulu i gyd yn dod at ei gilydd.
Mae gynnon ni wyrion erbyn hyn, a dwi'n meddwl wrth addurno am y petha' fysa'n denu llygaid plentyn. Dwi'n eu ystyried nhw wrth addurno bob tro.
Dwi'n gasglwr wrth reddf, dwi'n casglu llyfrau, crochenwaith, lluniau, figurines... sydd yn dipyn bach o boendod i bawb arall!
Dwi'n rhamantydd. Dwi'n edrych ar hen luniau Fictorianaidd gydag anrhegion o dan y goeden, ac maen nhw'n fy ysbrydoli wrth addurno. Mae yna gyfuniad o addurniadau yma.
Mae dylanwad theatrig ar y goeden hon.
Addurniadau sy'n gweddu â lliw yr ystafell.
Mae pob 'stafell yn cael triniaeth unigryw, ac mae'r gegin yn edrych yn wahanol iawn i weddill y tŷ.
Mae'r arian a'r du yn gweddu'n berffaith yn y gegin.
Mae pawb yn gofyn i gael dod draw, felly eleni fe wnaethon ni drefnu open house ar ddydd Sul Rhagfyr 17 ac agor y drws i bawb sy'n galw heibio a rhoi cyfraniad er cof am Irfon [Williams]. Mae ei blant yn y côr [Glanaethwy] efo ni, a dyma yw ein cyfraniad ni er cof amdano.
Mae gen i goeden gofio. Mae lluniau mewn fframiau a baubles â lluniau ynddyn nhw. Mae hwn yn ffordd o gofio pobl sydd ddim efo ni ddim mwy. Fedrai ddim deall pobl sy'n casáu y Dolig, ond fedrai ddeall bod 'na dristwch o gwmpas y Dolig, ac mae'n amser i gofio. Fyddwn ni'n cynnig llwnc destun i gofio am ffrindiau a theulu ar y diwrnod.
Fe wnaethon ni adeiladu derbynfa fawr yn y tŷ a wnaethon ni'n siŵr ei fod yn ddigon uchel fel bod coeden fawr yn gallu ffitio'n dda. Mae ganddon ni spiral staircase ac mae'r goeden fawr yn edrych yn hyfryd.
Mae rhai o'r addurniadau yn sentimental, pethau wnaeth fy mhlant i eu gwneud yn yr ysgol gynradd, mae 'na hen addurniadau roedd fy rhieni i'n arfer eu rhoi fyny yn eu tŷ nhw. Mae pob dim yn bwysig i'r cyfanwaith. Mae 'na rai addurniadau dwi'n gorfod eu rhoi fyny bob blwyddyn - yr anrhegion roedd ein merch Mirain yn arfer eu gwneud i Siôn Corn, a chardiau Dolig anferth oedd Tirion y mab yn eu rhoi i ni. Mae 'na betha fel 'na yn dod allan i ni gael hwyl, mae'n dod â gwên i ni. Mae'n bwysig i gadw traddodiadau yn fyw.
Mae Rhian a fi mor brysur trwy'r flwyddyn, ond 'dan ni'n cymryd pythefnos o wyliau bob haf a dros y Dolig, lle does neb yn gallu fy nhemptio i allan! Dwi isio bod efo fy nheulu.
Nadolig Llawen!
Hefyd o ddiddordeb: