Glanaethwy yn Efrog Newydd
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos roedd dros 70 aelod o Gôr Glanaethwy yn canu ar lwyfan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd. Roedden nhw'n perfformio darn coffa trychineb Aberfan, Cantata Memoria, gan Syr Karl Jenkins ar y cyd gydag aelodau o chwe chôr o wahanol rannau o'r byd a cherddorfa lawn.
Diolch i Cefin a Rhian Roberts ac aelodau'r côr am anfon rhai lluniau o'r daith at Cymru Fyw:
Hedfanodd aelodau Côr Glanaethwy i Efrog Newydd ddydd Iau i ymarfer gyda'r corau eraill a'r gerddorfa cyn y cyngerdd.
Ar ôl cyrraedd, taith mewn tacsi melyn. Pan yn Efrog Newydd...
Gwireddu breuddwyd - enw Côr Glanaethwy ymhlith y mawrion ar flaen Carnegie Hall.
Cafodd y côr wahoddiad i berfformio wedi i drefnwyr y cyngerdd weld fideo ohonyn nhw ar wefan YouTube wedi eu hymddangosiad ar raglen Britain's Got Talent. Dywedodd Rhian Roberts wrth Cymru Fyw cyn y daith, "mae cael perfformio yn Carnegie Hall yn gymaint o fraint. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn."
Y côr gyda'r cyfansoddwr Karl Jenkins a Dr Jonathan Griffiths, Arweinydd y cyngerdd ddydd Sadwrn.
Roedd y chwe chôr o draws y byd, oedd yn ffurfio'r 300 o leisiau, wedi bod yn paratoi cyn cyrraedd Efrog Newydd, ond ychydig ddyddiau cyn y cyngerdd roedd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer yr ymarferion terfynol.
Cafodd sesiwn cwestiwn ac ateb ei chynnal gyda chyfansoddwr Cantata Memoria, Karl Jenkins.
Rhian Roberts, Catrin Finch a Cefin Roberts yn yr ymarferion, cyn y cyngerdd brynhawn Sul.
Y Bariton Mark Walters gyda rhai o'r côr.
Aros i fynd i mewn i Carnegie Hall.
Llun gyda'r Arweinydd Dr Jonathan Griffiths.
Côr Glanaethwy ar lwyfan ysblennydd Carnegie Hall, yn barod i berfformio gydag aelodau'r chwe chôr arall a'r gerddorfa.