Cythraul cystadlu?

  • Cyhoeddwyd
Rhian a Cefin Roberts: Sylfaenwyr Ysgol Berfformio Glanaethwy
Disgrifiad o’r llun,

Rhian a Cefin Roberts: Sylfaenwyr Ysgol Berfformio Glanaethwy

Mae corau Ysgol Glanaethwy, dolen allanol wedi cael llwyddiant mawr mewn sawl cystadleuaeth dros Gymru, y DU a mor bell â China. Yn ddiweddar mae'r aelodau wedi creu argraff fawr ar y beirniad llym hwnnw, Simon Cowell, yng nghystadleuaeth 'Britain's Got Talent'.

Rhian a Cefin Roberts ydi cyfarwyddwyr Ysgol Glanaethwy. Cefin fu'n egluro wrth Cymru Fyw pam ei fod yn credu bod na rinweddau i'r cystadlu cyson:

'Mae gan bawb ddewis'

Mae sawl un wedi gofyn i mi'n y gorffennol pam bod angen inni gystadlu byth a hefyd yn yr holl wyliau rydan ni wedi eu mynychu dros blynyddoedd.

Pam fod angen llusgo corau o un pen y byd i'r llall i gael ein beirniadu a byw yng nghanol y cythraul canu bondigrybwyll? I mi mae'r cwestiwn yn un dyrys iawn, ond mae iddo ateb gweddol syml.

Does dim rhaid i neb gystadlu, a does dim rhaid i neb wylio eraill yn cystadlu chwaith. Mae gan bawb ddewis.

Gwn am nifer o nghyfeillion lle mae'r gair 'cystadleuaeth' fel tai'n mynd yn groes i'r graen iddyn nhw yn syth bin, a gallaf gydymdeimlo peth â'u safbwynt.

Iddyn nhw mae cystadlu yn meithrin gelyniaeth a gor-hyder. O bosib fod rhai o'r unigolion yma wedi profi rhyw agwedd negyddol tebyg tra'n cystadlu eu hunain pan yn blant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae côr Glanaethwy yn adnabyddus ar lwyfannau ar draws Cymru

Ehangu profiad

Pan sefydlodd Rhian a finna Ysgol Berfformio Glanaethwy ein nôd o'r cychwyn oedd rhoi hynny o gyfle ag y gallem i blant a phobl ifanc Gogledd Cymru i berfformio ar lwyfannau a'r cyfryngau i gynulleidfaoedd mor eang â phosib, ac i fwynhau y profiad hwnnw.

Roedd ambell un yn dal i ddadlau y gallem wneud hynny heb gystadlu; pam na allen ni drefnu ein sioeau a'n cyngherddau ein hunain heb fynd ar lwyfan cystadleuol? A dyna wnaethon ni ar y cychwyn.

Ymlafnio i logi neuaddau a gwerthu tocynnau, cyflogi technegwyr a faniau i gludo'n setiau i neuaddau lleol oedd yn hanner gwag a phawb ond y rhieni yn gwarafun prynu tocyn i wrando ar gôr nad oedd neb wedi clywed amdanyn nhw.

Derbyn a symud ymlaen

Yna fe gychwynon ni gystadlu. Roedd neuadd wedi ei pharatoi a'i thalu amdani, doedd dim rhaid llusgo mwy nag ychydig brops a threfnu bws i gludo'n disgyblion i'r lleoliad.

Roedd y neuadd yn llawn a barn ambell feirniad doeth yn gymorth ichi wella a chodi eich safonau.

Gall pob un ohonom ogor pob beirniadaeth nad yw'n adeiladol neu'n ddoeth. Ac os cafwyd cam yna symud yn eich blaenau i'r llwyfan nesaf sy'n eich haros.

Mentro cystadlu yn talu ffordd

Fe gafwyd llwyddiant o wneud hynny. O Eisteddfod Dyffryn Ogwen i'r Genedlaethol, o Langollen i'r sioeau realiti ar y BBC ac ITV.

Yn sgîl hynny fe gafwyd gwahoddiad i deithio'r byd ac i rannu llwyfannau hefo Catherine Zeta Jones, Shirley Bassey a chyd-ganu hefo Bryn Terfel, Gwyn Huws Jones, John Owen Jones a Ruthie Henshall ar sawl achlysur.

O Ganolfan y Mileniwm a Neuadd Albert ac o Fethesda i Shaoxing yn China, fydda hi ddim wedi bod yn bosibl inni roi yr holl gyfleon yma i'n pobl ifanc oni bai ein bod wedi mentro i lwyfan cystadleuol. Diolch amdanynt.

Mae wedi arbed oriau o waith trefnu ac wedi rhoi inni gynulleidfa na allem fod wedi breuddwydio ei meithrin ar ein liwt ein hunain.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Cefin a chôr Glanaethwy yn creu argraff ar Simon Cowell a'i gyd-feirniaid ar 'Britain's Got Talent'

Mae'r byd celfyddydol yn llawn cystadleuaeth, boed honno'n gystadleuaeth amlwg lle mae 'na banel beirniaid neu banel i ddewis celfyddyd gain ar gyfer arddangosfa; o un pegwn i'r llall mae'n rhaid didol er mwyn inni weld y goreuon.

Mae siom yn anorfod ar adegau felly. Mae pob un ohonom yn meddwl fod ganddon ni ddarn o gelfyddyd y carem i rhywun arall ei weld. Ond does dim modd rhoi y llwyfan hwnnw i bawb bob amser.

Delio efo siom

A phrun ai y cytunwch chi â'r didolwyr ai peidio does yna ddim ffordd amgen o ddewis y goreuon. Ac felly mae pawb yn cael eu siomi o bryd i'w gilydd; mae'n emosiwn cwbl naturiol ac mae o wedi bod hefo ni erioed.

Mi fydda i'n trafod siom yn aml hefo'r disgyblion ac yn pwysleisio mai'r hyn sy'n bwysig ydi peidio troi'r siom yn chwerwder. Dyna pryd mae'r siom yn troi'n gythraul.

Ond os gwelwch chi'r cythraul hwnnw ar wyneb neu yn llais rhywun arall yna trowch glust fyddar iddo.

Os nad chi oedd yn fuddugol ewch at y person llwyddiannus a'i longyfarch.

Mae 'na gystadleuaeth arall ar y gorwel. 'Ymlaen â'r gân!'