Lluniau: Sesiwn Fawr Dolgellau 2018
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos, cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei chynnal yn y dref.
Y ffotograffydd Dafydd Owen, o gwmni ffotoNant, oedd yno ar ran Cymru Fyw:
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y band Anweledig, ar flwyddyn ei ben-blwydd yn 25 oed, y bydden nhw'n dychwelyd i Ddolgellau.
Un o berfformiadau mwyaf cofiadwy y grŵp o Flaenau Ffestinog yn Sesiwn Fawr oedd y flwyddyn pan rannodd y band lwyfan gyda'r Levellers, The Alarm a'r Saw Doctors yng ngŵyl 2002.
Roedd y dorf wrth eu boddau er gwaetha'r tywydd gwlyb nos Wener.
Roedd 'na ambell i het liwgar i'w gweld - teyrnged i un o albyms mwya' poblogaidd Anweledig, Sombreros yn y Glaw. Addas iawn.
Rhywbeth sydd i'w weld yn amlach mewn gwyliau y dyddiau yma. Ond tybed be' ydy ystyr yr hashnod? Dirgelwch.
Roedd 'na ddifyrwch ar gael yn Tŷ Siamas hefyd gyda Geraint Løvgreen yn gwahodd pobl i'w 'huffern fach'...
...ac roedd y gynulleidfa i weld yn mwynhau!
Prif leisydd y band gwerin-roc Bwncath, Elidyr Glyn - enillydd cyntaf Tlws Alun Sbardun Huws yn Steddfod Genedlaethol 2016.
Roedd yna amrywiaeth o ran yr arlwy, ac hefyd o ran oed y gynulleidfa.
Y Mellt yn perfformio yn Y Clwb Rygbi, a oedd yn rhoi llwyfan i rhai o fandiau newydd, mwyaf addawol y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Dydy hi ddim yn ŵyl gerddorol Gymraeg y dyddiau 'ma heb y Welsh Whisperer yn diddannu yn ei siaced Hi-Vis!
Y gantores ifanc Glain Rhys yn perfformio.
Cameo i'r het fwced liwgar, neu'r bucket hat, sydd mor nodweddiadol o gemau pêl-droed Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Y Cledrau, band ifanc o ardal y Bala yn perfformio ar lwyfan y stryd ynghanol y dref.
Ond mae'r ŵyl hefyd yn adnabyddus am wahodd cerddorion rhyngwladol i berfformio.
Eleni, La Inedita - band sy'n plethu cerddoriaeth reggae a cherddoriaeth traddodiadol Peru - oedd un o'r uchafbwyntiau mwyaf annisgwyl.
Tan flwyddyn nesa', Sesiwn Fawr!
Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: