Ymgyrch arall yn 'ddechrau newydd' i Gymru

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd nos Iau wrth iddyn nhw groesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd.

Fe fydd taith i Ddenmarc yn dilyn hynny, er bod ansicrwydd a fydd enwau mawr gwrthwynebwyr Cymru ar gael oherwydd ffrae rhwng y garfan a'r gymdeithas bêl-droed.

Ein gohebydd chwaraeon Owain Llŷr fu'n holi pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes am y paratoadau at y gêm nos Iau a helynt carfan Denmarc.