Denmarc yn enwi chwaraewyr futsal ac amatur i herio Cymru

  • Cyhoeddwyd
DenmarcFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Cymdeithas Bêl-droed Denmarc wedi cyhoeddi carfan sy'n cynnwys chwaraewyr futsal ac amatur ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ddydd Sul.

Daw hynny'n dilyn ffrae rhwng y gymdeithas a nifer o'r chwaraewyr mwyaf adnabyddus ynglŷn â hawliau masnachol.

Oherwydd hyn, mae'r DBU wedi gorfod galw ar garfan o chwaraewyr o gynghreiriau is Denmarc ar gyfer eu gemau yn erbyn Slofacia a Chymru.

Maen nhw hefyd wedi penodi rheolwr dros dro ar gyfer y ddwy gêm, John Jensen, yn lle'r tîm rheoli arferol o Age Hareide a Jon Dahl Tomasson.

'Llanast'

Ddydd Mawrth fe gadarnhaodd DBU fod y garfan newydd yn cynnwys wyth chwaraewr o drydedd a phedwaredd haen cynghreiriau Denmarc.

Mae nifer o'r lleill yn y garfan o 24 yn chwaraewyr futsal - gêm dan do pump-bob-ochr - sy'n defnyddio pêl lai ond trymach na phêl-droed arferol.

Dyw'r garfan o 24 ddim yn cynnwys unrhyw chwaraewyr o ddwy adran uchaf Denmarc, na chwaith unrhyw chwaraewyr sy'n chwarae i glybiau tramor.

Mae'r DBU wedi mynnu bod rhaid chwarae'r gemau, a hynny oherwydd rhybudd gan UEFA y gallen nhw eu gwahardd o gystadlaethau os nad ydynt yn llwyddo i gwblhau pob gêm o fewn y pedair blynedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fel mae'n sefyll fydd carfan Denmarc ddim yn cynnwys sêr fel Andreas Christensen, Christian Eriksen a Martin Braithwaite

Daeth y bygythiad hwnnw wedi i dîm menywod Denmarc beidio â chwarae gêm ragbrofol Cwpan y Byd y llynedd.

Ond heb gytundeb gyda'r undeb sy'n cynrychioli'r chwaraewyr arferol, maen nhw wedi gorfod galw ar y cymysgedd o chwaraewyr lled-broffesiynol, amatur a fustal.

Mae'r sefyllfa'n "llanast" ac yn niweidiol iawn i enw da Denmarc yn y byd pêl-droed, yn ôl y cyn-chwaraewr canol cae Morten Wieghorst.

"Mae'n edrych fel y byddwn ni'n gorfod dewis tîm o chwaraewyr futsal ac o'r cynghreiriau is... dyw hynny ddim yn dda i bêl-droed yn Nenmarc," meddai wrth BBC Sport Wales.

"Dwi dal eisiau teimlo ym mer fy esgyrn na fydd hyn yn digwydd. Mae angen iddyn nhw sortio hyn fel bod chwaraewyr go iawn Denmarc yn gallu chwarae."

Bydd Cymru'n herio Gweriniaeth Iwerddon gartref nos Iau cyn teithio i Aarhus i wynebu Denmarc ddydd Sul.

Mae'r ddwy gêm yn rhan o gystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd, all hefyd ddylanwadu ar y broses o geisio cyrraedd Euro 2020.