Lluniau: Dydd Iau Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar bedwerydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Owen o Gaerdydd a'i merch fach Leia, sydd newydd gael gafael ar y tocynnau aur - i fynd i sioe Cyw ar y Maes!

Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Tyne - enillydd y gadair ddydd Iau, yw'r person cyntaf erioed i 'ennill y dwbl' sef coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Disgrifiad o’r llun,

Un ymarfer olaf gyda'r piano cyn y rhagbrawf

Disgrifiad o’r llun,

Criw o Ysgol Tryfan, Bangor yn ymlacio ar ôl cystadlu yn rhagbrawf Cerdd Dant

Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Wheeler yn Swyddog Cynorthwyol yr Urdd i ardal Caerdydd a'r Fro. Yr wythnos hon, mae e'n gyfrifol am gario offer trwm o gwmpas y Maes. Mae'r gwaith yn amrywiol, meddai - "y bore 'ma yn barod dwi wedi cario'r Gadair a bocs o 36 brwsh - props Cân Actol!"

Disgrifiad o’r llun,

Gwenno o Bontypridd yn mwynhau neidio

Disgrifiad o’r llun,

Y newyddiadurwr a chyn-olygydd BBC Radio Cymru Betsan Powys yw Llywydd y dydd

Disgrifiad o’r llun,

Tair chwaer - Gwen, Alis a Heti yn cael hwyl gyda'r hetiau gwirion ym mhabell Mistar Urdd

Disgrifiad o’r llun,

Jess Davies yn flogio o faes yr Urdd - yn sgwrsio gyda Rhian o Gaerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Comisiynydd Plant Cymru yn Tipi Syr IfanC yn gyfle i blant a phobl ifanc ddod o fwrlwm y Maes i ymlacio ac i ddysgu mwy am eu hawliau - fel wnaeth y tri ffrind yma o Abertawe

Disgrifiad o’r llun,

Gig dros ginio yn y bae, beth well?

Hefyd o ddiddordeb: