Iestyn Tyne yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Cylch 2019 yw Iestyn Tyne.
Iestyn yw'r person cyntaf erioed i 'ennill y dwbl' sef coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ail roedd Carwyn Morgan Eckley, Aelod Unigol o Gylch Arfon ac yn drydydd roedd Osian Wyn Owen, Aelwyd JMJ, Cylch Bangor Ogwen.
Daw Iestyn o Ben Llŷn yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, lle mae'n rhannu ei amser rhwng cyfieithu a gweithio'n llawrydd fel bardd, awdur, golygydd a cherddor. Mae'n wyneb ac enw cyfarwydd i lawer ac yn enillydd coron Eisteddfod yr Urdd y Fflint 2016 a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yr un flwyddyn.
Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli cyn astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bardd a cherddor profiadol
Mae'n un o'r criw fu'n gyfrifol am sefydlu cyhoeddiadau a chylchgrawn creadigol annibynnol Y Stamp. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, addunedau ac ar adain.
Mae'n aelod o'r grwpiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae wedi perfformio ei waith ledled Cymru, yn Llydaw, Gwlad y Basg ac Iwerddon.
Mae'n dweud bod llu o deulu a ffrindiau yn haeddu gair o ddiolch ond dyma rai y mae'n rhaid eu henwi - y Stampwyr, am herio rhywun i ddal ati i feddwl yn wahanol am bethau; ei rieni, am bopeth maen nhw wedi ei wneud ac yn dal i'w wneud; a Sophie, am wneud bywyd yn gyfan.
Y beirniaid oedd Elinor Wyn Reynolds ac Osian Rhys Jones. Wrth draddodi o'r llwyfan, dywedodd Elinor Wyn Reynolds y dylai'r pymtheg ymgeisydd 'deimlo balchder yn eu camp'. Am y bardd buddugol, oedd yn cystadlu o dan y ffugenw Saith, meddai:
"Cyflwynodd Iestyn saith cerdd rydd sy'n sôn am saith math o gywilydd: o ymdriniaeth dyn o'r amgylchedd, i gywilydd personol, cywilydd am ryfela, cywilydd am ein difaterwch swbwrbaidd, cywilydd am drais domestig.
"Mae'r cerddi wedi gadael eu hôl ar y ddau ohonom fel beirniaid gyda'u delweddau beiddgar, mewn cyfanwaith hynod wreiddiol sy'n cynnig rhywbeth newydd ar bob darlleniad a delweddau cofiadwy fel - 'Fe daret yn rhywle ar dy ganol mawr melyn... mor gynnes â chwpanaid o heulwen.'
"Mae 'Saith' yn fardd hynod hyderus ac aeddfed sydd ag awen annisgwyl. Mewn cerddi medrus mae'n dangos y cyfan mewn lliwiau llachar i ni ond mae hefyd yn dangos y gallai pob dim gael ei droi wyneb i waered drwy'r peth lleiaf oll - dyna yw rhyfeddod bywyd - yng ngeiriau'r bardd: 'Un diferyn di-droi-nôl; un bluen drom.'
"Mae'r gyfres hon o gerddi'n feistrolgar, yn athronyddol, yn ddiwinyddol, mae'n chwarae gyda'r ymennydd dro ar ôl tro, yn ei ffrwydro hyd yn oed. Mae'r cerddi'n llachar, yn pefrio, teimlodd fel petai wedi dod o nunlle, mae'n gyfres mor wahanol i'r lleill - dyma sy'n ei chodi uwchlaw'r lleill yn y gystadleuaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019