Jess Davies: O fodelu dros y byd i flogio yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
jess davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Davies wedi teithio'r byd gyda'i gwaith modelu - ond mae llawer o ardaloedd Cymru yn dal yn ddieithr iddi

Mae'r fodel o Aberystwyth, Jess Davies, wedi penderfynu herio'i hun i ddechrau flogio (blog ar ffurf fideo) yn Gymraeg ar YouTube.

Dywedodd y cyn gystadleuydd Miss Wales sydd wedi modelu i gylchgronau fel Zoo, FHM a Loaded, ei bod eisiau defnyddio mwy o'r iaith a dod i adnabod Cymru'n well.

Yn siarad gyda Carl ac Alun ar BBC Radio Cymru, fe eglurodd Jess pam oedd hi am ddechrau gwneud hyn.

"O'n i eisiau dechrau flogio, ac o'n i eisiau ymarfer fy Nghymraeg i, a pan o'n i'n edrych ar y we o'n i'n gweld bod neb rili yn flogio yn Gymraeg, felly nes i feddwl rhoi'r ddau at ei gilydd a dechrau gwneud yn Gymraeg," meddai.

"Dwi am fynd ar daith dros Gymru efo fy ffrindiau i ffeindio mas mwy am y wlad a'r defnydd o'r Gymraeg.

"Dwi ddim 'di bod i lot o lefydd yng Nghymru - Aberystwyth yn amlwg a dwi'n byw yng Nghaerdydd, ond dyna fe rili, dwi heb fod lan y gogledd lot.

"Mae pawb wedi bod mor gefnogol, achos o'n i bach yn nerfus achos dydi fy Nghymraeg i ddim yn grêt. Ond mae pobl ar Twitter wedi bod yn rhannu'r flogs felly mae 'di bod yn wych."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jess lwyfan i'w gwaith gyda miloedd yn ei dilyn ar gyfryngau cymdeithasol

300,000 o ddilynwyr

Mae Jess yn ffigwr poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol - rhwng Twitter ac Instagram mae ganddi dros 300,000 o ddilynwyr. Gyda chymaint o ddilynwyr mae'n defnyddio'r llwyfan i hybu'r hyn mae hi eisiau ei wneud gyda'r flogs Cymraeg.

"Mae pawb wedi bod yn lyfli yn rhannu fy fideos i ag ati," meddai.

"Mae pobl eisiau gwybod be da chi'n gwneud ac mae rhaid chi roi lluniau lan (ar gyfryngau cymdeithasol), a dyna pam o'n i eisiau gwneud flogs rili - i ddangos ochr arall personoliaeth fi achos ar Instagram allwch chi roi un llun a pobl yn hoffi fe, ond mae gwneud fideo yn rhoi mwy o bersonoliaeth."

Gyda chymaint o ddilynwyr, mae'n cael lot fawr o negeseuon a chwestiynau gan bobl.

"Dwi'n trio'u hateb nhw i gyd ond mae rhai pobl yn gofyn cwestiynau bach yn sili, ac mae'n well i fi eu hanwybyddu nhw!" meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim llawer o waith modelu 'glamour' bellach wedi i gylchgronau fel Loaded ddod i ben meddai Jess Davies

Amddiffyn y diwydiant modelu 'glamour'

Mae Jess yn dweud bod ei chefndir modelu wedi rhoi'r llwyfan iddi ar gyfer gwneud yr hyn mae hi'n ei wneud heddiw.

"Mae llawer o fy nilynwyr wedi dod achos o'n i yn y cylchgronau yna, felly mae o wedi rili helpu a dwi wedi teithio dros y byd yn modelu, a nes i rili fwynhau'r swydd," meddai.

Yn y gorffennol, mae wedi amddiffyn cyhuddiadau fod modelu bronnoeth yn wrth-ffeministaidd ac er ei bod yn dal i weithio fel model yn achlysurol mae'r term 'glamour model' yn codi teimladau cymysg.

"Mae'r term bach yn hen dwi'n credu, outdated efallai, ond eto o'dd e bach yn glamorous efallai felly dwi'm yn gwybod," meddai Jess, sydd hefyd wedi ymddangos yng nghalendr Hot Shots, sy'n codi arian ar gyfer cyn filwyr.

"O'n i'n gwneud yr holl 'lad mags' fel Loaded, ond fe roedd 'na bobl yn brwydro yn eu herbyn yn dweud bod nhw ddim yn dda i fenywod ac fe ddaethon nhw i ben, ac felly does yna ddim lot o waith bellach i wneud glamour modelling, sydd yn drueni.

"Dwi'n credu bod llawer yn beirniadu'r holl beth yn meddwl ei fod bach yn sleazy, ond mewn gwirionedd mae wir yn broffesiynol ac mae pobl yn gwneud y dewis i wneud y swydd yna.

"Felly mae o'n siom felly bod e wedi mynd achos pan ti'n cwrdd pawb sydd wedi gwneud y modelu yma fe wnaethon nhw fwynhau."

Wedi ymddangos fel cystadleuydd ar raglen Pryd o Sêr ac ar raglen yn nodi 50 mlwyddiant mudiad Merched y Wawr ar S4C, mae mwy o waith teledu yn apelio ati.

"Byswn i'n hoffi gwneud hynny a gawn ni weld be' wneith ddigwydd."

Beth am flogio yn llawn-amser?

"Mae llawer yn gwneud e'n llawn-amser ond dwi newydd ddechrau, felly gawn ni weld."

Hefyd o ddiddordeb: