Selebs a'u cŵn: Dewch i gwrdd â'u ffrindiau ffyddlon

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer ohonom ni wrth ein boddau â chŵn... a dydi rhai o selebs Cymru ddim gwahanol!

Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Bethan Gwanas a'i chi, Del: "Mae Del wrth fy nhraed pan dwi'n gweithio, mae'n gwmni ac mae'n dweud wrtha' i pryd i stopio."

Ffynhonnell y llun, Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Tybed ydi Mot yn cael mynd i'r stafell newyddion gyda'r newyddiadurwr Huw Edwards?

Ffynhonnell y llun, Chris Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roxy yn mynd i bob man gyda Chris 'Foodgasm' Roberts, sydd yn creu fideos ohono'n coginio bwydydd ar y barbeciw. Mae hi'n troi yn dipyn o seleb ei hun, meddai Chris, ac yn cael ei sbwylio - "Nesh i gyfres cwcio ar S4C a ma' hi yn bob 'recipe' bron iawn. Ga'th hi hanner stêc £150 efo fi a nesh i 'romantic recipe' iddi hefyd!"

Ffynhonnell y llun, Lowri Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflwynydd a'r rhedwraig Lowri Morgan a Nel yn mynd i hyfforddi gyda'i gilydd yn aml

Ffynhonnell y llun, Emily Tucker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Tucker, sydd yn actio Sioned ar Pobol y Cwm, wrth ei bodd â'i chi bach, Missy

Ffynhonnell y llun, Rhydian Bowen Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r cyflwynydd a'r actor Rhydian Bowen Phillips yn dangos 'chydig o ddiwylliant Cymraeg i Kaiser a Molly

Ffynhonnell y llun, Gillian Elisa
Disgrifiad o’r llun,

Cariad, yn edrych yn ddel yn ei chot goch, yr un lliw â sbectols ei pherchennog, y berfformwraig Gillian Elisa

Ffynhonnell y llun, Gareth Charles
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sylwebydd chwaraeon Gareth Charles a Sianco wrth eu boddau yn mynd am dro yn Amroth yn Sir Benfro

Ffynhonnell y llun, Non Parry
Disgrifiad o’r llun,

Bron nad ydych chi'n gallu gweld Rita yn ei llun ohoni hi efo'i pherchennog, y gantores Non Parry (mae hi ar ei hysgwydd...)

Ffynhonnell y llun, Ioan Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae mynd am dro yn dda i glirio'r meddwl - mae'n siŵr y byddai Dr Ioan Rees, seicolegydd Ffit Cymru ar S4C, a Iago a Lili, yn cytuno!

Hefyd o ddiddordeb: