Dysgu Cymraeg ochr-yn-ochr â'r ci!

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwella eich Cymraeg, ond methu ymarfer â neb?

Peidiwch â phoeni! Mae Anne Cakebread o Landudoch wedi creu llyfr a allai eich helpu i wella eich Cymraeg chi... ac un eich ci yr un pryd!

Bu Anne yn siarad â Cymru Fyw ynglŷn â sut gafodd hi'r syniad am ei llyfr unigryw, Teach Your Dog Welsh:

Ffynhonnell y llun, Anne Cakebread

Roedd gen i ychydig o eiriau o Gymraeg pan o'n i'n ifanc, ac mi wnes i ei astudio yn yr ysgol uwchradd yng Nghaerdydd - ond roedd e'n Gymraeg ffurfiol iawn. Doeddet ti ddim yn clywed y math yna o Gymraeg o amgylch y lle.

Pan o'n i ychydig hŷn, trïais i eto mewn gwersi nos, ac roedd yn cael ei dysgu mewn ffordd wahanol erbyn hyn - roedd yn ymddangos mwy fel iaith, yn hytrach na phan o'n i'n ei dysgu yn yr ysgol, pan oedd fel rhyw fath o wyddoniaeth!

Felly pan symudon ni i orllewin Cymru, ro'n i wir eisiau dysgu mwy, gan ei bod hi'n ardal Gymraeg a gan ein bod ni'n cadw lle gwely a brecwast. Ond roedd hi'n anodd dod o hyd i'r amser.

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, 'naethon ni fabwysiadu whippet o'r enw Frieda. Roedd hi'n llawer mwy swnllyd na'r cŵn eraill, a ddim yn gwrando arnon ni, tan un dydd, nes i ddod mas â 'Paid' yn hytrach na 'No' - a stopiodd hi! Roedd hi'n amlwg wedyn fod ganddon ni gi Cymraeg-ei-hiaith, ac felly, ro'n i angen gwella fy Nghymraeg!

Ffynhonnell y llun, Anne Cakebread
Disgrifiad o’r llun,

Frieda - y ci a ddechreuodd y cyfan - ac Anne

Magu hyder wrth ymarfer

Fel dysgwr, dwi'n mynd yn nerfus iawn pan dwi'n gorfod dweud pethau'n uchel. Dwi'n cofio ymarfer drosodd a throsodd be' o'n i am ei ddweud wrth y cigydd un tro... a ddes i mas â 'Hola' pan gerddais i mewn! O'n i mor nerfus, o'n i ond yn gallu cofio'r Sbaeneg nes i ei ddysgu pan o'n i'n 16!

Ond sylwais i mod i'n dod yn fwy hyderus wrth siarad mwy â Frieda, wrth iddi ymateb. Felly ges i'r syniad am y llyfr 'ma, ble rydych chi'n gallu dysgu wrth siarad gyda'ch ci!

(Wrth gwrs, does 'na'm rhaid i chi gael ci - byddai tedi-bêr yn iawn hyd yn oed. Ond dwi wedi gorfod creu llyfr Teach Your Cat Welsh hefyd oherwydd, mae'n debyg, fyddai perchnogion cathod yn gwrthod prynu un cŵn...!)

Ynddo mae geiriau fel shwmae, os gwelwch yn dda, ga i, mas, pêl, llongyfarchiadau, diolch, fydda i ddim yn hir ayyb a sut i'w ynganu'n ffonetig. Mae'n hawdd i'w ddeall, felly mae'n grêt ar gyfer pobl sydd ddim yn dda am ddysgu ieithoedd.

Ffynhonnell y llun, Anne Cakebread

Do'n i wir ddim ishe iddo fe edrych fel textbook - roedd e angen bod yn rhywbeth byddai pobl yn ei bigo lan, eu rhoi yn eu handbag ac yn barod i'w ddefnyddio. Fi sydd wedi tynnu'r lluniau ynddo - rhai lliwgar, retro - a gobeithio byddan nhw'n gwneud i bobl chwerthin. Dwi'n meddwl byddai hyd yn oed Cymry Cymraeg yn medru ei werthfawrogi.

Erioed wedi bod eisiau dysgu Māori?!

Roedd gen i syniadau pendant iawn ynglŷn â'r llyfr, ac roedd Y Lolfa yn ffit da o'r dechrau. I mi, roedd rhaid i'r llyfr cynta' fod yn Gymraeg, ond ro'n i hefyd eisiau gwneud llyfrau mewn ieithoedd eraill hefyd.

Bydd copïau caled ar gael mewn rhai ieithoedd, fel Sbaeneg a Gwyddeleg, ac e-lyfrau mewn ieithoedd eraill. Mae gen i nifer o ffrindiau sy'n siarad llawer o ieithoedd gwahanol sy'n fy helpu - mae un ffrind am gyfieithu'r llyfr i Māori i mi!

Ffynhonnell y llun, Anne Cakebread

Un diwrnod, dwi'n gobeithio siarad Cymraeg yn fwy rhugl, a dwi'n gobeithio fydd y llyfr yma yn fy helpu i a phobl eraill.

Fy ngobaith yw i gael pobl i siarad mwy o Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac mae gen i lawer o syniadau eraill am bethau i helpu pobl i ddod yn fwy dwyieithog - neu hyd yn oed amlieithog!