Pobol y Cŵn
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n dweud fod cŵn yn edrych yn debyg i'w perchnogion, felly, a hithau'n wythnos sioe gŵn Crufts, sut gŵn fyddai wedi bod yn berffaith ar gyfer rhai o gymeriadau Pobol y Cwm?

Sut allech chi fod wedi cymryd yn erbyn Ieuan Griffiths â'r llygaid mawr ciwt 'na?

Beth mae Beth a'i chi hi wedi gweld?

Cwrso defaid fyddai ci Gina wedi ei wneud yn y gyfres?

Pa gi arall allai Brandon fod wedi bod berchen arno?

Mae Llew yn ddigon hapus gyda'i gi ef

Er, o'n i wastad yn amau bod y Steff 'na yn un cas...

Cyfeirgi Gwyddelig (Irish Setter) i Julie efallai

Yn sicr, dylai Olwen fod wedi cael pwdl yn y siop

Efallai na fyddai angen i gi Dai Scaffalde fod mor flewog erbyn hyn?
A dyna ddiwedd ein detholiad bach ni. Os fedrwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau eraill, cofiwch gysylltu:
Twitter: @BBCCymruFyw
neu e-bost:
cymrufyw@bbc.co.uk