Dathlu degawdau o ganu gwerin, protest a phop

  • Cyhoeddwyd

Eleni, mae hi'n ganmlwyddiant ers geni Dr Meredydd Evans, neu Merêd fel yr oedd yn cael ei adnabod, ac mae arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, RECORD : Gwerin, Protest a Phop, yn nodi ei gyfraniad a'i ddylanwad i gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal ag edrych ar sut mae cerddoriaeth Gymraeg wedi datblygu dros y degawdau.

Meddai Mari Elin Jones, curadur yr arddangosfa, wrth sgwrsio ar raglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru, bod tynnu'r casgliadau at ei gilydd yn dangos sut bod yr elfennau diwylliannol a gwleidyddol yn hanes cerddoriaeth Gymraeg dros y degawdau, yn effeithio ar ei gilydd.

Disgrifiad,

Mari Elin Jones o Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trafod yr arddangosfa Record : Gwerin, Protest a Phop

Dyma flas o'r hyn sydd i'w weld yn yr arddangosfa:

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Crwth - hen offeryn cerdd sy'n cael ei gysylltu â chanu gwerin traddodiadol Gymreig

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'John Smith, the blind harper of Conway, with penillion singers', 1793 - Julius Ibbetson

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae adran 'Merêd' / Adloniant Ysgafn yn yr arddangosfa yn edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru. Ymhlith y casgliad mae papurau Merêd a'i wraig Phyllis, ffotograffau a llythyr iddo gan Richard Burton. Yn ôl Mari Elin Jones o'r Llyfrgell, roedd Merêd a Burton wedi cwrdd mewn dathliad Gŵyl Dewi yn Efrog Newydd ac yn cael trafodaeth ddiddorol am hen alawon gwerin yn y llythyr.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan a Meic Stevens, 1971 - llun gan Geoff Charles

Ffynhonnell y llun, Malcolm Gwyon
Disgrifiad o’r llun,

‘Dafydd Iwan yn y Glaw’, Malcolm Gwyon

Ffynhonnell y llun, Malcolm Gwyon
Disgrifiad o’r llun,

'Tecwyn Lliwgar', Malcolm Gwyon

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Poster Y Blew, dyluniad gan Dafydd Evans

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Wal Gloriau a'r ddisg llun Gymraeg gyntaf - 'Dagrau'n Dechrau Disgyn' gan Ray Jones

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o bosteri gigs o'r 1960au i'r 1990au

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Posteri gigs Geraint Jarman a Meic Stevens

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn y rhan hon o'r arddangosfa, mae posteri gigs SFA a Catatonia, llun o Euros Childs a phoster o waith Ani Glass ar gyfer 'Ffrwydrad Tawel'

Mae'r arddangosfa, sy'n cynnwys posteri, ffotograffau, archifau ac ystafell wrando, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth tan Chwefror 2020.

Hefyd o ddiddordeb: